CHWE deg mlynedd wedi trychineb Aberfan, bydd Alex Jones yn cyflwyno rhaglen arbennig i S4C sy'n archwilio sut mae'r gymuned wedi byw gyda gwaddol un o drychinebau mwyaf erchyll Cymru.

Yn Alex Jones: Un Diwrnod yn Aberfan, fydd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Sul 18 Hydref am 20.00, mae'r cyflwynydd yn ymweld ag Aberfan am y tro cyntaf i gwrdd â goroeswyr, y rhai a redodd i helpu ar ddiwrnod y drychineb, a chenhedlaeth newydd sy'n benderfynol o gadw cof Aberfan yn fyw.

Mae ymweliad Alex â mynwent Aberfan yn un o eiliadau mwyaf emosiynol y rhaglen. Wrth gerdded rhwng beddau'r plant a gollwyd, mae hi'n cael ei tharo gan y sylweddoliad bod llawer ohonynt yr un oedran â'i phlant hi:

"O'n i'n gwybod beth o'n i'n mynd i weld," meddai Alex. "Ond dwi'n credu, unwaith ti'n dechrau darllen yr ysgrifen ar y beddau... mae'r plant i gyd yr un oedran â 'mhlant i. Mae'r golled mor ofnadwy... mae fe jest mor drist."

Ar 21 Hydref 1966, lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas a rhannau o bentref Aberfan.

Ymhlith y rhai sy'n rhannu eu hanesion gyda Alex mae Gaynor Madgwick, oedd yn wyth oed pan darodd y llif. Cafodd ei hanafu yn y drychineb a chollodd ei brawd Carl, a'i chwaer Marilyn.

Am flynyddoedd bu'n byw gydag effaith seicolegol y digwyddiad heb ddiagnosis na chymorth.

Erbyn hyn, mae Gaynor yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu ffyrdd o gefnogi plant sydd wedi profi trawma.

Meddai Gaynor:"Roeddech chi'n dioddef yn dawel. Doeddech chi ddim yn meiddio sôn eich bod yn cael trafferthion gyda'ch iechyd meddwl rhag ofn i chi gael eich anfon i'r ysbyty meddwl lleol. Roedd cymaint o stigma ynghlwm â iechyd meddwl bryd hynny fel nad oedd neb yn siarad amdano."

Mae Gaynor hefyd yn rhannu eitemau gwerthfawr sydd wedi aros yn gysylltiad â'i brawd a'i chwaer, gan gynnwys pêl Carl a ffrog Marilyn, ac mae hi’n adrodd hanes rhyfeddol sut y daethpwyd o hyd iddynt ddegawdau'n ddiweddarach.

Mae'r rhaglen hefyd yn cwrdd â Jeff Edwards, un o ddim ond pedwar disgybl yn ei ddosbarth yn Ysgol Pantglas i oroesi'r trychineb. Bu'n byw gyda chreithiau seicolegol y digwyddiad am flynyddoedd, ond wedi dychwelyd i Aberfan yn y 1990au, defnyddiodd ei brofiadau i helpu cenhedlaeth newydd, gan sefydlu mentrau i gefnogi pobl ifanc lleol.

Mae Jeff yn cael ei gydnabod fel un o ffigurau pwysicaf adfywiad cymunedol yr ardal, ar ôl derbyn MBE ac OBE am ei waith:

"Roedd yn ffordd o wneud y pethau hynny na chafodd y bobl ifanc a fu farw yn y drychineb erioed gyfle i'w gwneud, ac mewn ffordd, mae'n ffordd o wneud iawn drostyn nhw."

Roedd Dewi Meirion Lewis, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe pan darodd y drychineb. O blith tua 300 o fyfyrwyr a wirfoddolodd i helpu, roedd Dewi yn un o 30 a ddewiswyd i deithio i Aberfan fel rhan o dîm cymorth Prifysgol Cymru. Ac yntau’n chwaraewr rygbi ifanc ar y pryd, cafodd ei ddewis oherwydd y gwaith corfforol anodd oedd yn wynebu'r gwirfoddolwyr wrth helpu gyda'r ymdrechion achub.

Aeth Dewi ymlaen i adeiladu gyrfa ryngwladol nodedig ym maes ffiseg niwclear, gan weithio yn CERN ac wedyn ddod yn arbenigwr o ym maes fferyllol ymbelydrol. Ond bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach, mae atgofion Aberfan yn dal yn fyw.

Bydd rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol – Cofio Aberfan yn cael ei darlledu am 19.30 nos Sul, gan gwblhau noson o raglenni ar S4C i goffau un o drychinebau mwyaf trist hanes Cymru.

Hefyd ar 21 Hydref mi fydd Alex Jones yn cyflwyno rhaglen ddogfen i blant ar y trychineb; Aberfan: Arwyr ein Cwm. Gyda help rhai o ddisgyblion cynradd Ysgol Gymraeg Rhyd-Y-Grug, mae Alex yn cyfarfod â rhai o arwyr tawel Aberfan ac yn darganfod eu straeon dewr ac ysbrydoliedig.

Alex Jones: Un diwrnod yn Aberfan, Nos Sul, 18 Hydref 20.00. Ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer. Cynhyrchiad Captain Jac ar gyfer S4C

Aberfan: Arwyr ein Cwm, Dydd Mercher 21 Hydref 17.20. Ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer. Cynhyrchiad Captain Jac ar gyfer S4C