BYDD y cyflwynydd Seren Jones yn archwilio’r straeon personol tu ôl i’r teuluoedd sydd wedi galw Cymru’n gartref ar ôl cyrraedd o wledydd ar draws y byd, mewn cyfres newydd ar S4C.
Bydd Cyrraedd Cymru yn dilyn Seren wrth iddi ddarganfod straeon o fudo, gwytnwch a pherthyn, gan gyfarfod â theuluoedd ar draws Cymru a ddechreuodd eu taith ar draws Affrica, Asia, Ewrop a thu hwnt.
O deuluoedd sydd â chyndeidiau a gyrhaeddodd ganrifoedd yn ôl, i’r sawl sydd wedi galw Cymru’n gartref yn fwy diweddar, mae’r gyfres yn dadlenni bywydau, hanesion a chyfraniadau pellgyrhaeddol y bobl fu ar y teithiau hyn sydd wedi dod yn rhan o stori Cymru.
Cyrraedd Cymru, cynhyrchiad Cardiff Productions, yw’r gyfres gyntaf i Seren ei chyflwyno ar S4C ers iddi gael ei henwi’n Gyflwynydd y Flwyddyn yng Ngwobrau RTS Cymru 2026.
“Yn y gyfres yma, fi ‘di cael y cyfle i siarad gyda chyfranwyr, i gynnal cyfweliadau hefyd, i ddeall straeon a profiadau pobl sydd wedi cyrraedd Cymru a dewis Cymru fel cartref iddyn nhw,” meddai Seren.
Wrth edrych ymlaen at yr hyn y gall wylwyr ddisgwyl o’r gyfres, mae Seren yn addo: “Lot o emosiwn. Lot o ddealltwriaeth. Lot o ddysgu.”
Rhys Ruggerio yw un o’r rhai sy’n rhannu stori ei deulu yn y gyfres.
Roedd ei nain a’i daid wedi symud i Gymru ar ôl i’w daid dreulio cyfnod fel carcharor rhyfel ger Cerrigydrudion yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
“Ar ôl cael ei ryddhau, aeth o ‘nôl i’r Eidal a phriodi Nain a chael plentyn a wedyn wnaeth o ddod ‘nôl i fyw a gweithio ar y fferm o’dd o’n gweithio fel carcharor, a wnaeth Nain ddilyn wedyn,” meddai Rhys.
Mae’r rhaglen yn dilyn Rhys wrth iddo olrhain taith ei deulu, gan ymweld â’r fferm lle sefydlodd ei nain a’i daid fywyd newydd gyda’i gilydd ac adlewyrchu ar yr effaith y cawsant ar eu cymuned leol.
“Aethon ni i’r ffarm lle faswn nhw ‘di bod ar ôl dod i Gymru. Jyst rhannu atgofion a trio deall yr effaith o’n nhw ‘di gael ar y gymdeithas o’u cwmpas nhw yr adeg honno’n ganol nunlla yng Ngogledd Cymru.”
Dywedodd Rhys bod cymryd rhan yn y gyfres yn golygu llawer iddo a’i deulu.
“O’dd o jyst yn lyfli cael mynd i leoliadau gwahanol a dilyn taith Nain a Taid. Dod i nabod nhw’n well achos daethon nhw draw flynyddoedd ‘nôl erbyn hyn, so o’dd o’n neis cael cysylltu eto efo’r gwreiddiau Eidaleg ‘na gynnon ni,” ychwanegodd.
“Rhywbeth wnaethon ni weld yn ystod y ffilmio oedd darlun o’dd rhywun ‘di ‘neud o Taid ar wal yn sied y fferm jyst tu allan i Gerrigydrudion yn dal yno ers 70 o flynyddoedd. Hwnna yw’r peth dwi’n trysori fwya’, a cael gweld bod e dal yno a bod pobl ‘di trio’i gadw fo yn saff dros yr holl flynyddoedd.”
Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C: “Pwy well na Seren Jones i adrodd stori mewnfudo yng Nghymru. Bu’n rhaid i deulu ei mam ffoi i Brydain o Rhodesia. Mae hon yn gyfres sy’n datgelu straeon newydd am bobl o bedwar ban byd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac wedi cyfoethogi ein hanes.”
Bydd Cyrraedd Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.