GYDA mwy o ddysgwyr nag erioed o’r blaen wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, mae’r Urdd yn cymryd y cyfle i ddathlu siaradwyr Cymraeg newydd ar faes yr ŵyl heddiw.
Prynhawn yma mi fydd prif seremoni Medal y Dysgwyr a Bobi Jones yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn Gwyn – nod y ddwy gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Ymrwymiad yr Urdd i gefnogi dysgu Cymraeg yn y gweithle
Bellach gyda 416 o staff, yr Urdd yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y Gymraeg, ynghyd â’r prif ddarparydd Prentisiaethau drwy’r Gymraeg oddi fewn y trydydd sector yng Nghymru.
Mae 43% o weithlu’r Urdd o dan 25 oed, ac mae’r mudiad yn ymfalchïo mewn cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu’n broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adran Brentisiaethau’r Urdd yw un o brif ddarparwyr prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, gan arbenigo mewn prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau chwaraeon, hamdden, addysg awyr agored, gofal plant, addysg a gwaith ieuenctid.
Mae llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd dros y ddegawd ddiwethaf yn cynnwys:
• Hyfforddi dros 600 o brentisiaid.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda dros 80 o gyflogwyr yn flynyddol.
• Sicrhau fod 400 yn ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Ers 2022, mae rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg wedi’i roi ar waith mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi nod y mudiad ieuenctid o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cefnogaeth gan diwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel rhan o’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad.
Mae Yusuf Bille a Hudhayfah Arish, Prentisiaid Amrywiaeth a Chynhwysiant, Adran Chwaraeon yr Urdd yn derbyn 6 awr o wersi wyneb yn wyneb yn wythnosol ac mae staff cegin Gwersyll Llangrannog o Wcráin yn derbyn gwersi Cymraeg wythnosol ers mis Hydref 2023.
Mae digwyddiad arbennig wedi’i drefnu yn yr Arddorfa ar faes yr Eisteddfod yn dilyn y seremoni er mwyn dathlu llwyddiant y prif enillwyr ynghyd â dysgwyr yn gyffredinol.
Am 3 o’r gloch yn yr Arddorfa heddiw bydd sgwrs arbennig rhwng enillydd Medal y Dysgwyr 2023 Gwilym Morgan ac enillydd Medal Bobi Jones 2024, Isabella Colby Brown.
Mi fydd Yusuf Bille a Gwilym Morgan yn dweud gair yn y gynhadledd.