Nid dau beth ar wahân i’w gilydd oedd ysgol a chymdogaeth i Dai a Beryl Llewelyn – ‘Syr’ a ‘Mrs’ Llewelyn i genedlaethau o blant Cribyn.

Yr olaf i fyw yn nhŷ’r ysgol, doedd y gwaith o addysgu ddim yn dibennu ddiwedd y prynhawn.

Roedd yna gymaint o weithgareddau i’w harwain a’u cefnogi yn y pentref a’r cyffiniau – Aelwyd yr Urdd, Pwyllgor yr Henoed, dosbarthiadau Cymraeg i newydd-ddyfodiaid a gweithgareddau’r eglwys a’r ddau gapel ac ati.

Ac yn y dydd, nid rhyfedd o beth fydde canfod yr ysgol yn wâg a’r plant oll yn dilyn Syr dros y bompren ac i berferdion allt Pen-bryn, sef y stafell ddosbarth orau oll ar gyfer dysgu iddynt nid yn unig ryfeddodau byd natur ond hefyd hanes a daearyddiaeth a chwedlau bro eu mebyd.

Pa ryfedd bod cymaint o gyn-ddisgyblion yr ysgol yn meddu ar y fath barch i’w hiaith, eu diwylliant a’u hamgylchedd. Trwy’u haddysg cawsant wreiddiau.

Dair blynedd yn ôl, a hwythau yn eu nawdegau, bu farw’r ‘ddau enaid, hoff, gytûn’, a hynny o fewn fisoedd i’w gilydd.

Dan amgylchiadau cyfyng y cyfnod ni fu’n bosib i gymaint o’u cyfeillion a’u cyn-ddisgyblion ddangos eu diolch a’u gwethfawrogiad.

Nos Wener, 31 Mawrth, mi fydd cyfle i unioni’r diffyg hwnnw. Yng Nghapel Troedyrhiw (rhwng Cribyn a Dihewyd) bydd croeso cynnes i unrhyw un a phob un ddod ynghyd i gofio am fywyd a gwaith y bartneriaeth neilltuol hon.

Ac mi fydd offer cyfieithu ar-y-pryd yn sicrhau y bydd newydd-ddyfodiaid i Geredigion yn cael cyfle i ddysgu, trwy gyfrwng hanes y ddau, am gyfoeth naturiol Cymru yn ei holl ehangder.

• Noson i Gofio Mr a Mrs Llewelyn, Capel Troedyrhiw, Cribyn, nos Wener, 31 Mawrth, 7.30yh