Yn Awst 2022 cludwyd sgarff anferth chwarter milltir o hyd o babell Merched y Wawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron i’r Babell Len.
Roedd y sgarff enfawr yn rhan o’r sialens o ail gysylltu aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion ar ôl y pandemig. Arweiniodd y cyfan at greu ffilm lwyddiannus iawn ar Gwlân, Gwlân o dan nawdd y Loteri Genedlaethol.
Cymerodd 160 o aelodau ran uniongyrchol yn y ffilm ynghyd a bron pob un o’r 900 aelod mewn gweithgareddau amrywiol ar eu haelwydydd, dros Zoom neu yn gymdeithasol. Y criw gweithgar a fu’n gyfrifol am y ffilm oedd Lowri Steffan, Anna ap Robert a chwmni Garnfach gyda chymorth Enfys Hatcher Davies a Carys Mai.
Erbyn hyn mae’r ffilm wedi cael ei dangos ar hyd a lled Ceredigion, sir Gar a Phenfro ac yn teithio i dde Cymru, Powys a Llundain yn y dyfodol agos. Ond beth am y Sgarff?
Dros fisoedd oer y gaeaf mae aelodau’r Rhanbarth wedi llwyddo i ailwampio’r sgarff i greu darnau i gadw pobol yn gynnes. Ar brynhawn Sadwrn, 28 Ionawr cynhaliwyd te dathlu ar gampws Coleg y Drindod Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yng nghwmni ein llywydd cenedlaethol Jill Lewis a’n cyfarwyddwraig Tegwen Morris.
Y wraig wadd oedd Jayne Holland sy’n rhedeg bwyty Veganishmum ym mhentre’ Penboyr, Drefach Felindre. Cafwyd hanes y gwaith mae hi ai gwr Rob yn ei wneud i gasglu a chludo nwyddau i’r Wcrain.
A dyna ddiwedd taith y sgarff. Cyflwynwyd y rhan fwyaf iddi i’w cludo allan ar eu taith nesaf yn Chwefror. Cyflwynir gweddill y sgarff i elusennau o fewn Ceredigion sy’n cefnogi ein trigolion sy’n dioddef o effaith tlodi tanwydd y gaeaf hwn.
Diolch i holl aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion a fu’n brysur yn creu’r sgarff, yn cyfrannu i hwyl y ffilm Gwlân, Gwlân ac i’r rhai a fu’n ailwampio’r cynnyrch i’w gyflwyno i eraill.
Diolch enfawr hefyd i Jayne a Rob Holland wrth gasglu a chludo adnoddau hanfodol i gefnogi trigolion yr Wcrain yn y cyfnod anodd hwn.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.