Myfanwy Jones yw cyfarwyddwr newydd Mentrau Iaith Cymru.

Roedd yn gweithio fel swyddog datblygu’r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Gâr lle’r oedd yn flaengar yn datblygu strategaeth y cyngor i hybu’r Gymraeg yn y sir yn ogystal ag arwain a chydlynu Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg.

Cafodd Myfanwy ei magu yn Lledrod, yng Ngheredigion, ac astudiodd Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, cyn gwneud doethuriaeth ym mhrifysgol Warwick.

Mae ganddi brofiad cynllunio ieithyddol trwy ei gwaith i Fenter Iaith Abertawe, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a thrwy ei gwaith llawrydd yn y maes.

Datblygu strategaeth genedlaethol i’r Mentrau Iaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, cefnogi a chynrychioli’r mentrau a hyrwyddo eu gwaith fydd canolbwynt gwaith Myfanwy Jones.

Corff ymbarél, cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru (MIC) sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru trwy ddarparu cymorth marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a chyfleoedd i rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith.

Mae MIC hefyd yn datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol ar y cyd â’r Mentrau Iaith lleol a chyrff eraill er budd y Gymraeg.

Dywed Myfanwy: “Mae’r Mentrau Iaith yn arf hollbwysig yn ein hymdrechion i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu cefnogi a’u cynorthwyo i ddatblygu er budd y Gymraeg yn fy swydd fel cyfarwyddwr.

“Byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau a datblygu ymwybyddiaeth o waith y mentrau ar gychwyn y swydd bwysig hon.”