Gwasanaethau
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 22 Tachwedd, 2yp, Gwasanaeth yng ngofal teulu Llwynmwyn.
Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 22 Tachwedd – 10yb – Lyn Ebenezer. 11yb Ysgol Sul. 11.30yb, plant yn canu carolau ym Marchnad Nadolig y pafiliwn.
Services
Strata Florida Churches (Church in Wales): Sunday 22 November – 2pm – Evening Prayer at St Mary’s Church.
Merched y Wawr
Cynhaliodd Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch gyfarfod nos Fawrth, 3 Tachwedd.
Cyflwynodd y llywydd, Neli Jones y wraig wadd am y noson, sef Mandy Phillips o Eglwyswrw a diolchodd i Gwenda Hughes, Myfanwy Huws a Mair Richards am drefnu’r noson. Mae Mandy yng ngofal arlwyo Gwasanaeth Iechyd Hywel Dda, ac yn hen gyfarwydd ag ysbytai’r ardal drwy ei gwaith.
Cafwyd gan Mandy arddangosiad paratoi pwdinau amrywiol, a oedd yn tynnu dwr o’r dannedd! Cafwyd cyfle i flasu’r pwdinau, a chyfle i rai ennill pwdin ar y raffl. Enillwyr y raffl oedd Llinos Jones, Mari Arch, Ann Arch, Myfanwy Huws a Jên Ebenezer. Cafwyd cyfle i groesawu aelod newydd, sef Clare Huws ar y noson, ac hefyd ymwelydd, Eluned o Bontarfynach, a thalwyd y diolchiadau gan Jên Ebenezer.
Marchnad Nadolig
Cynhelir Marchnad Nadolig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ddydd Sul 22 Tachwedd, rhwng 10.30yb a 4yp.
Bydd yna stondinau amrywiol, yn cynnwys crefftau, anrhegion a bwydydd, bydd yna adloniant ac arddangosfeydd, lluniaeth a diodydd. Pris mynediad fydd £3, yn cynnwys gwin mwll, gyda mynediad i blant am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.