Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 17 Ebrill, 10yb, Cwrdd Gweddi; 11yb Ysgol Sul.Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 17 Ebrill: 5yh, Parch Elwyn Pryse, Bow Street.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 17 April, 8.30am, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.
Coed y Bont
THE next work party will be on Sunday, 17 April; meet at 10.30am at Coed y Bont car park.They will continue with path drainage and improvement in the old woodland.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod misol Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn llyfrgell Neuadd Pantyfedwen ar nos Fawrth, 5 Ebrill. Cyflwynodd y llywydd, Neli Jones, y gwr gwadd, sef y fferyllydd Geraint Morgan, Bwlchllan. Mae Geraint yn fferyllydd yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, a chafwyd ganddo mewn sgwrs a llun, hanes ei fagwraeth ym Mwlchllan, ac am ei waith fel fferyllydd. Cafwyd orig ddiddorol iawn yn ei gwmni, a chafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau iddo ar ddiwedd y sgwrs. Talwyd y diolchiadau gan Mari Arch, ac enillwyd gwobr raffl y mis gan Jên Ebenezer. Roedd gwahoddiad wedi ei dderbyn hefyd gan Eisteddfod Teulu James i ddwy gynrychiolydd i gyrchu’r bardd bud-dugol i’r llwyfan yn seremoni’r cadeirio ar y dydd Llun, a’r enwau a ddaeth allan o’r het oedd Elen Jones a Joan Davies. Bydd y cyfarfod nesa’ ar nos Fawrth, 3 Mai, yng ngofal Myfanwy a Del.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.