Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 1 Mai, 10yb, Gwasanaeth Un-debol gyda’r Parch Aled Gwyn, Caerdydd yn pregethu (Gwasanaeth Cymun).Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 1 Mai: 10yb, Ymuno â Rhydfendigaid am y Gwasanaeth Undebol.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 1 May, 8.30am, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.
Eisteddfod Pantyfedwen
BYDD Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, ynghyd â Chyngerdd Merêd yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn y Bont dros benwythnos Gwyl Banc Calan Mai, 29 Ebrill – 2 Mai, gydag Eisteddfod y nos Wener yn cychwyn am 5yh, a dydd Sadwrn am 9.30yb.Nos Sadwrn am 8yh, bydd ‘Sadwrn y Sêr’ yn cael ei gynnal, gyda gwestai arbennig yn arwain y noson, sef un o sêr S4C, Aled Samuel. Bydd yna ddwy gystadleuaeth yn cyd-redeg, sef Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm, a Chyflwyniad Dramatig, gyda Rhian Morgan ac Elin Llwyd, dwy arall o sêr y teledu yn beirniadu. Cynigir gwobrau hael ynghyd â Chwpan Her y diweddar Moc Morgan i’r enillydd.Bydd Cyngerdd o deyrnged i’r diweddar Dr Meredydd Evans yn cael ei gynnal ar y dydd Sul, gyda’r sesiwn gyntaf am 3yp a’r ail sesiwn am 8yh. Mae’r cyngerdd i ddathlu’r traddodiad gwerin Cymraeg fel teyrnged i’r diwed-dar Merêd, a bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno Gareth Bonello, Heather Jones, Patrobas, Siân James a Pharti Cut Lloi, Tecwyn Ifan, Robion Huw Bowen a’r Côr Telynau Teirers, Gai Toms, Mair Tomos Ifans, Arfon Gwilym a Sioned Webb, Gwenan Gibbard, Tecwyn Ifan gyda Eu-ros Rhys Evans a John Griffiths, a Linda Griffiths gyda Dewi Pws. Bydd copi o’r gyfrol deyrnged i Merêd “Dyn ar Dân” hefyd yn cael ei chyflwyno ar y noson.Rhwng y ddwy sesiwn gyngerdd, bydd Talwrn y Beirdd yn cael ei gynnal o 6 hyd 8yh, gyda phump o dimoedd yn cystadlu o dan y ddau Feuryn – Y Prifeirdd Aled Gwyn a Rhys Iorwerth.
I gloi’r penwythnos, bydd eisteddfod y dydd Llun yn cychwyn am 10yb, ac yn wahanol i’r arfer, bydd y cystadleuwyr i gyd yn ymddangos ar y llwyfan. Ar y nos Lun hefyd, fe geir anerchiad Llywyddion y Dydd, sef Mr a Mrs John Glant Griffiths, Lledrod.Mae yna argoelion am gystadlu brwd iawn dros y penwythnos; am ragor o fanylion, cysylltwch â’r Ysgrifenyddion Cyffredinol, Selwyn a Neli Jones ar 01974 831695 neu [email protected].






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.