UNWAITH eto eleni cynhaliwyd yr wyl boblogaidd Gwyl Mee Mai yn Nhafarn Ty Newydd, Sarn ger Botwnnog.

Roedd yr wyl yn codi arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ogystal â cherddoriaeth fyw gan Patrobas, cafwyd gystadleuaeth cneifio gwahanol i’r arfer tu mewn i’r dafarn.

Mewn timau o bedwar, roedd rhaid i un aelod odro buwch smalio, roedd rhaid i’r ail fwyta wy (oedd unai yn amrwd neu wedi berwi), cyn yfed potel alcopop ar ei ben.

Wedyn roedd hi’n tro y trydydd aelod i pedlo beic er mwyn cynhyrchu pwer fel bod y pedwerydd aelod yn medru cneifio’r ddafad, ac roedd hyn i gyd yn erbyn y cloc!

Cafwyd llawer o hwyl ar y noson gyda’r Ty Newydd yn llawn o pobl a phlant o bob oedran yn llenwi’r dafarn boblogaidd yma.

Oherwydd ymdrechion ar y noson, casglwyd cyfanswm o £526.50 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr