Cymdeithas Ddiwylliannol y Drindod
DAETH nifer dda ynghyd i gyfarfod o’r gymdeithas nos Wener ddiwethaf i gyfarfod Nadoligaidd a drefnir yn flynyddol gan R D Williams a Griff T Owen.Hyfryd oedd cael croesawu pâr priod gyda chysylltiadau â’r dref a sydd nawr yn byw yn Seland Newydd i’r cyfarfod.Roedd y festri wedi ei haddurno o flaen llaw gyda choeden Nadolig a blodau hardd gan Mair Williams. Dan arweiniad Richard, roedd cyfle i’r aelodau ganu nifer o garolau adnabyddus i gyfeiliant Morfydd W Roberts a Griff.Cyflwynwyd eitemau cerddorol gan Ifan John, Merfyn, y triawd Dan, Elsie a Griff a phedwarawd y Plygain, sef Richard, Dan, Eifion a Griff, a chafwyd darlleniadau amserol gan Enid Roberts, Linda Russell a Morfydd Roberts.I ddilyn, mwynhwyd paned a mins peis a diolchwyd i bawb gan y Parch W Bryn Williams.Bydd y cyfarfodydd yn ail-ddechrau ar 14 Ionawr am 7yh pryd y ceir sgwrs am Mair, mam yr Iesu, gan y Parch Andrew Jones.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church this Sunday will be led by Rev W Bryn Williams.The service starts at 11.15am.
Clwb y Bont
CROESAWYD pawb i ginio Nadolig y clwb gan Mici Plwm, cadeirydd y noson. Yna cyflwynodd y siaradwr gwadd, sef Gari Wyn, Bethel sy’n berchennog cwmni gwerthu moduron a hefyd yn hanesydd a chasglwr. Goddrych ei sgwrs oedd John Owen, 1808-76, o Ty’n Llwyn, Pentir – cartref Gari bellach. Yn amaethwr, pregethwr ac ysgrifennwr ar bynciau amaethyddol, daeth John Owen yn Rhyddfrydwr amlwg ac oherwydd hyn cafodd ei droi allan o’i fferm gan y perchennog Toriaidd, er iddo wneud llawer o welliannau i’r fferm fawr yma ar ei gost ei hunan.Mae llawer o ddylanwadau’r cy-fnod hwn yn parhau hyd heddiw ac wedi lliwio datblygiad y byd Cymreig dros ganrif a hanner.Bu farw John Owen ar fferm Penyberth yn Llyn. Roedd ei unig fab, John, hefyd o’r un anian amaethyddol ac wedi gyrfa helbulus fel gweinidog bu’n ddarlithydd mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Services/Oedfaon
ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass; Christmas Eve, 6pm, Nativity Play and Mass; 9pm, Carols and Mass; Christmas Day, 10am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; Christmas Eve, 11.30pm, Midnight Mass; Christmas Day, 9.30am, Holy Communion .Capel Seion: 10yb, Gwasanaeth Nadolig yr aelodau; Dydd Nadolig, 10yb, Oedfa Unedig gyda’r Parch Glenys Jones.Capel Penlan: 10am, Oedfa Nadolig.
Cylch Cyfeillion
BU’R AELODAU yn y ‘Lion’, Tudweiliog yn mwynhau eu cinio Nadolig blynyddol brynhawn Llun, 7 Rhagfyr.Croesawyd hwy’n gynnes gan eu ffrindiau, Caroline ac Evelyn. Cafwyd pryd o fwyd blasus iawn a bu sgwrsio mawr wrth y byrddau bwyd.Enillwyd gwobr yr wythnos gan Dafydd Sion Davies, Edern. Yna rhoddodd pawb anrheg mewn bag mawr du a bu Sion Corn yn brysur yn cario’r bag o gwmpas â phawb yn dewis un anrheg.Roedd Gwyndaf Davies wedi trefnu’r cludiant o ddrws i ddrws i bawb, gyda diolch arbennig i Gwynfor Williams, Brynafon, Abersoch am helpu allan.
Diolchwyd i bawb am bopeth am y flwyddyn i gyd gan Garry Jones, Parciau, Mynytho.Wrth gychwyn adref, cyflwynodd Jean Roberts, Y Ffôr, fasged o flodau tymhorol i Eirlys Davies, Bryn Crin am ei gwaith yn 2015. Diolchodd hithau amdano a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.Cyn diwedd y tymor bydd yr aelodau wedi bod yn Nhyddyn Sachau, Y Ffôr, i gael paned a mynd am dro drwy’r Grotto.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.