Aelwyd y Chwiorydd

Y SIARADWR gwadd mewn cy-farfod diweddar o Gymdeithas yr Hwyr Capel y Drindod oedd Alun Jones, Chwilog. Croesawyd ef a’r aelodau gan Enid Roberts, llywydd y noson a hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol ar thema Cymreictod.Mae Alun wedi graddio yn y Gymraeg, yn athro a hefyd yn feirniad llefaru cenedlaethol.Thema ei sgwrs oedd fel mae bywyd amaethyddol wedi newid, o fod yn gymdeithas glos i fod yn fywyd unig iawn, ac yn fusnes.Cyfeiriodd at ei fagwraeth yn Fron Goch, cymdeithas glos o ffermydd gyda phawb yn dod i helpu ei gilydd gyda’r gwair ac ati.Cyfeiriodd ymhellach at awdl Dic Jones ac awdl gwrth gyferbyniol Ceri Wyn Jones. Hefyd trafododd dwy o nofelau Caryl Lewis; Martha Jac a Sianco gyda’r hen ffordd yn dirwyn i ben a’r fuwch a’r biano yn symbolau o hyn ac wedyn Y Bwthyn a’r sgwar-nog yn cynrychioli yr hen ffordd o fyw.Diolchwyd yn gynnes iawn i Alun am noson hynod o ddifyr.Yn ystod y baned ar y diwedd trafodwyd anrheg Cymorth Cristnogol. Codwyd y swm anrhydeddus o £860 yn Ffair Nadolig blynyddol yr aelwyd.Cynhaliwyd y ffair ddechrau Rhagfyr a diolchir yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth eleni unwaith eto. Roedd y swm o £31 yn y blwch cenhadol hanner tymor.

Clwb Pensiynwyr

MWYNHAODD aelodau clwb y dref ginio Nadolig ardderchog yng nghaffi Taro Deg prynhawn Iau, 10 Rhagfyr. Hwn oedd cyfarfod olaf y clwb. Oherwydd lleihad yn nifer yr aelodaeth penderfynwyd, gyda thristwch, i ddod â’r clwb i ben.

Christmas Services

ST JOSEPH’S: Christmas Eve: 6pm, Nativity Play and Mass; 9pm, Carols and Mass. Christmas Day: 10am, Mass.St Peter’s: Christmas Eve: 11.30pm, Midnight Mass.Christmas Day: 9.30am, Holy Communion.