AR achlysur ei ben blwydd yn 70 oed, mae’r awdur John Alwyn Griffiths wedi cyhoeddi ei seithfed nofel dditectif mewn saith mlynedd.

Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Treuliodd gyfnodau yn gweithio mewn nifer o drefi: Pwllheli, Llangefni, Caergybi, Conwy a Dolgellau yn eu plith, a chyfuniad o’r trefi hynny yw Glan Morfa, y dref ddychmygol sy’n gartref i’r ditectif Jeff Evans.

Medd John: “Er nad ydi tref Glan Morfa yn bodoli go iawn, dwi wedi cymryd rhannau o ardaloedd dwi wedi gweithio ynddyn nhw i greu’r lle, a thynnu ar gymeriadau dwi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, yn fy nofelau.”

Mae prif gymeriad y gyfres hefyd wedi’i ysbrydoli gan gydweithwyr John, cyn iddo ychwanegu dogn go helaeth o ddychymyg. “Mae Jeff Evans yn fwngral o fath ? dwi wedi ei enwi ar ôl dau dditectif y bûm yn gweithio efo nhw am flynyddoedd, ac mae ei bersonoliaeth wedi’i ysbrydoli gan gydweithwyr eraill ... ond mae’n rhaid i mi gyfaddef bod ’na chydig ohona inna ynddo fo hefyd!” eglura.

Un peth sy’n nodedig am lyfrau John yw eu bod teitl pob un ohonynt yn dechrau efo’r gair ‘Dan’.

Dan Bwysau yw teitl y nofel ddiweddaraf hon, ac ynddi gwelwn fod y ditectif hoffus yn cael ei roi mewn sefyllfa anodd iawn i ddelio â hi.

Yn dilyn llythyr dienw, mae Jeff Evans yn darganfod bod rhywun sy’n galw’i hun yn elyn iddo â’i fryd ar ddinistrio ei enw da yn y dref sydd mor annwyl iddo. Ond nid ei enw da yn unig sydd yn y fantol ? mae cyflenwad o gyffuriau sydd wedi’u llygru â gwenwyn wedi cyrraedd strydoedd Glan Morfa, gan achosi niwed enbyd i’r trigolion.

Tydi delio â themâu sy’n agos iawn at y gwir ddim yn beth newydd i John Alwyn Griffiths ? mae wedi gwneud hynny sawl gwaith o’r blaen, fel yr eglura: “Rai blynyddoedd yn ôl, mi ddarllenais stori yn un o’r papurau newydd cenedlaethol am y broblem o smyglo pobol o ddwyrain Ewrop i Brydain, a phenderfynais ddefnyddio hynny yn blot i un o’m nofelau.

“Yn yr un modd, dechreuais feddwl am y bygythiad i Brydain gan derfysgwyr, ac arweiniodd hynny at fy nofel Dan Ewyn y Don, sy’n delio â chynllwyn i chwythu pwerdy yng ngogledd Cymru yn yfflon.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i’r darllenydd allu credu y gallai’r pethau ’ma ddigwydd ar stepen eu drws nhw, neu tydi’r nofel ddim yn gredadwy.”

Cafodd Dan Bwysau ei lansio yn llyfrgell Llangefni yn ddiweddar, ac mae ar silffoedd eich siop lyfrau leol nawr, yn barod at yr hosan Nadolig.