Cynhaliwyd sesiwn blasu ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor, Pwllheli yn ddiweddar.
Roedd y sesiynau yn cynnwys dosbarth pêl ffit, ymarfer cylchol, effaith metabolig, seiclo o dan do a Pump FX. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn gyda nifer o bobl yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau newydd.
Meddai Carys Ferris, Rheolwr Ardal Dwyfor, Glaslyn, Pafiliwn a Bro Ffesitniog ar ran Cyngor Gwynedd: “Hoffwn ddiolch i bawb am fynychu’r extrafagansa, roedd hi’n wych gweld gymaint o wynebau newydd yn ogystal a’n cwsmeriaid presennol.”
Ychwanegodd Ian Jones Uwch Reolwr Cymunedau Iach: “Mae’n wych gweld cymaint o drigolion Pên Llyn yn manteisio ar yr hyn sydd ar gael yn eu canolfan hamdden leol ac yn byw bywydau iach.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cadw’n heini i gysylltu a’u canolfan hamdden leol – mae amryw o weithgareddau ar gael ar gyfer pobl o bob oed a gallu.”





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.