DAETH aelodau a ffrindiau CFfI Ceredigion at eu gilydd i godi £9,530 drwy seiclo 75 milltir o amgylch y sir.

Mae CFfI Ceredigion yn dathlu 75 mlynedd eleni ac felly penderfynwyd gosod her a chodi arian tuag at Beiciau Gwaed Cymru a CFfI Ceredigion.

Rhannwyd yr her mewn i dri grwp ar ddydd Sadwrn, 8 Ebrill: roedd grwp un yn dechrau’r daith o Aberteifi, grwp dau o Dregaron a grwp tri o Dalybont. Daeth sawl wyneb cyfarwydd i’w helpu i gwblhau’r her gan gynnwys Geraint Lloyd, Deiniol Wyn Jones, John Davies a Dai Jones, Llanilar.

Gwelwyd yr aelodau yn beicio o bob cwr o’r sir a derbyniwyd llawer o gefnogaeth ar hyd y daith.

Gorffenwyd y daith gydag gorymdaith o amgylch tref Aberaeron cyn dychwelyd i Glwb Rygbi Aberaeron i ddathlu diwedd y daith.

Cynhaliwyd noson rasys defaid a barbeciw gyda’r nos a chafwyd noson llawn hwyl yn cymdeithasu a dawnsio i gerddoriaeth y bechgyn ifanc o glwb Bro’r Dderi, Sounds Good Productions.

Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus a diogel: staff, swyddogion, stiwardiaid, rhieni, ffrindiau’r mudiad ac i’r aelodau a wnaeth seiclo a chodi swm sylweddol tuag at achosion da. Diolch hefyd i’r holl noddwyr.

Cyflwynwyd siec o £4,765 yn Rali’r Sir ar 3 Mehefin i Beiciau Gwaed Cymru. Bydd yr arian yma yn helpu’r elusen a’u gwirfoddolwyr i barhau i ddarparu gwasanaeth negesydd beic modur ‘yn ystod oriau gwaith’ a gwasanaeth y ‘tu allan i oriau gwaith’ i bob bwrdd iechyd yng Nghymru.