Capel y Fadfa
Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 22 Tachwedd am 3yp.
Bydd y gwasanaeth yng ng ofal ein gweinidog y Parch Wyn Thomas, pryd ceir y cyfle i weini’r cymun. Croeso cynnes i’r aelodau ac i ffrindiau’r achos.
I ddilyn cynhelir Pwyllgor yr Eisteddfod.
Ysgol Gynradd
Enillwyr loteri’r ysgol am y mis diwethaf oedd Brian Potter, Rhoslwyn a Pete a Llinos Whitfield, Maes y Crug. Rhif y bêl lwcus oedd 16.
Cofiwch bod yr ysgol leol wedi dechrau ar broject newydd i ail-gylchu cetris inc a stampiau i gael codi arian tuag at gronfa’r ysgol.
Os am ddod â’r nwyddau hyn i’r ysgol neu eu rhoi i unrhyw riant bydd yr ysgol yn ddiolchgar iawn eu derbyn.
Wythnos Rhyng Ffydd
Mae Cyngor Rhyng Ffydd Cymru wedi dewis eleni i fentro allan i Geredigion i lansio’r wythnos Rhyng Ffydd ac i Hen Gapel Llwyn.
Mae hyn yn achlysur hanesyddol gan nad ydynt wedi cynnal digwyddiad fel hyn tu allan i Gaerdydd o’r blaen.
Mi fydd y digwyddiad yn cychwyn am 2yp a bydd cynrychiolwyr o dair wahanol ffydd yn rhoi rhyw flas o’r modd maent yn addoli, sef Islam, Baha’i a Christnogion.
Bydd y Parch Wyn Thomas yn arwain y rhan Gristnogol.
Bydd cawl i ddilyn yn Festri Llwyn, a chyfle i drafod, holi ac i ddod i adnabod a deall eu gilydd yn well.
Croeso cynnes i bawb.
Urdd y Benywod
Nos Iau cynhelir oedfa flynyddol Urdd y Benywod Ceredigion yng Nghapel y Fadfa, gyda Nans Davies, Llywydd yr Undodiaid ardal y Smotyn Du yn wraig wadd. Croeso cynnes i bawb.
Codi arian
Ddydd Sadwrn nesaf bydd aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian yn gwthio gwely o Glwb Rygbi Llanbed i Dafarn Bach i godi arian tuag at yr elusen Sefydliad Arenau Cymru, ynghyd ag Adran Babanod Ysbyty Singleton.
Bydd Tommo o Radio Cymru yn ymuno gyda’r criw i wthio’r gwely, felly digon o hwyl ar hyd y daith.
I ddilyn bydd Rasys Ceiliogod yn dechrau am 7.30yh yn Nhafarn Bach, felly rhagor o hwyl a sbri!
Dewch yn llu yw’r neges, gan fod y digwyddiad agored i bawb.
Cymdeithas yr Henoed
Nos Wener ddiwethaf cynhaliwyd Noson Tipit yn Nhafarn Glanyrafon.
Y canolwr oedd John Jones, Penrheol, Cwmsychbant.
Roedd croeso cynnes wedi cael ei estyn i bawb, a chyfle i rai ddod â thîm neu roeddent yn gallu ymuno mewn tîm ar y noson.
Noson o hwyl i godi arian at waith Cymdeithas Henoed y pentref oedd hwn a chafwyd noson lwyddiannus iawn







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.