Capel y Fadfa

DDYDD Sul diwethaf am 3yp, roedd y gwasanaeth ygn ngofal ein gweini-dog, y Parch Wyn Thomas. Cafwyd ganddo neges amserol a phwrpasol wrth gofio am y diflastod sy’n digwydd yn ein byd ar hyn o bryd. Yn ystod yr oedfa roedd yno gyfle i weini’r cymun am y tro diwethaf am eleni. Dymunodd y gweinidog bob dymuniad da i Siwsan Davies gan ei bod wedi cael dyrchafiad yn ei gwaith a dymunodd yn dda i Sally Davies, Bro Emrys oedd wedi dathlu ei phenblwydd yn 90 yn ddiweddar. I ddilyn cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor yr Eisteddfod a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mai’r flwyddyn nesaf. Yr organyddes oedd Siwsan Davies.

Eglwys Dewi Sant

MAE aelodau’r eglwys yn trefnu Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa ddydd Sadwrn nesaf rhwng 2 a 4yp. Bydd yno stondinau o bob math a chynnyrch o bob lliw a llun arnynt. Croeso cynnes i bawb; cofiwch alw heibio.

Canu Gwlad

NOS SADWRN nesaf bydd Hefin a Megan, Glanyrafon yn croesawu Tudur Wyn i ganu unwaith yn rhagor yn y dafarn. Cyfle i glywed ambell i jôc a chân gan y diddanwr amryddawn o Lanelwy.

Carolau’r Nadolig

NOS SUL nesaf am 7yh cynhelir no-son o Garolau’r Nadolig yng Nghapel y Fadfa. Yr arweinydd gwadd fydd Heledd Llwyd ac wrth yr organ fydd Martin Griffiths. Braf fydd cael croesawi Glyn Evans, Pwlltrap, San Clêr yn ôl fel llywydd y noson, gan fod y capel a’r ardal hon yn agos iawn at ei galon. Yr artistiaid fydd rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc, Pontsian ac edrychwn ymlaen at glywed eu harlwy. Mynediad drwy raglen sy’n £3 a bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r capel. Mae’r rhaglenni nawr ar werth gan aelodau’r capel, felly os ydych am fynd i naws yr Wyl, galwch i fewn. I ddilyn y canu, bydd te a mins pei yn cael eu gweini ar gyfer pawb yn y festri.Dewch i ymuno yn y noson arbennig hon.