Ysgol Gynradd

MAE dydd Gwener yn ddiwrnod prysur a phwysig iawn i blant ac athrawon yr Ysgol Gynradd leol, oherwydd cynhelir y Sioe a Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa. Bydd dau berfformiad o’r Sioe, y cyntaf am 1.30yp gyda stondinau i ddilyn. Bydd yr ail arddangosiad o’r sioe am 7yh ac i ddilyn bydd cyfle i fynd o amgylch y stondinau unwaith eto, felly ceisiwch bawb fynd i gefnogi.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn diwethaf roedd Hefin a Megan, Glanyrafon wedi croesawu Tudur Wyn i ganu unwaith yn rhagor yn y dafarn. Cafwyd cyfle i glywed ambell i jôc a chân gan y diddanwr am-ryddawn hwn o Lanelwy. Nos Sadwrn nesaf tro Clive Edwards fydd hi i ddiddanu’r gynulleidfa yn y Dafarn. Mae Clive yn ddiweddar wedi lansio CD newydd, sydd yn werth ei chlywed, felly os am noson arall o lwyr fwynhad dewch draw i Glanyrafon i glywed y canwr a’r diddanwr o Hendy-gwyn ar Daf yn mynd drwy ei bethau.

Capel y Fadfa

CYNHELIR yr oedfa nesaf bore Sul am 10yb. Hwn fydd y cwrdd olaf am y flwyddyn, heblaw am Wasana-eth Nadolig y Plant at nos Sul, 20 Rhagfyr. Ein gweinidog y Parch Wyn Thomas fydd yn croesawu pawb i’r oedfa foreol hyn ac yn ôl yr arfer bydd croeso cynnes i aelodau ac i ffrindiau’r achos unwaith eto. Fel aelodau rydym am longyfarch y Parch Cen Llwyd gan iddo ennill cadair Eisteddfod Abergorlech nos Sadwrn diwethaf.

Eglwys Dewi Sant

ROEDD aelodau’r wedi trefnu Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa dydd Sadwrn diwethaf rhwng 2 a 4yp. Digon o stondinau o bob math a chynnyrch o bob lliw a llun arnynt, ynghyd a phaned o de a mince pie i bawb a chroeso cynnes wedi cael ei estyn i bawb droi mewn i edrych ac i brynu. Braf yw cael cyhoeddi bod elw o £800 wedi cael ei godi yn ystod y prynhawn hyfryd a diolch i bawb a gefnogodd yw’r neges.Garolau’r NadoligNOS Sul diwethaf am 7yh cynhali-wyd noson o Garolau’r Nadolig yng Nghapel y Fadfa. Yn llywyddu oedd y Parch Wyn Thomas ac efe a gyflwynodd yr arweinydd gwadd sef un o ferched ifanc y capel Heledd Llwyd ac wrth yr organ roedd Martin Griffiths. Braf oedd cael croesawi Glyn Evans, Pwlltrap, St Clears yn ôl i’r digwyddiad fel Llywydd y noson, gan fod y capel a’r ardal hyn yn agos iawn at ei galon. Cafwyd rhodd anrhydeddus ganddo tuag at waith cynnal a chadw’r capel. Yr artistiaid oedd rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc, Pontsian a braf oedd cael clywed eu harlwy ar y noson. Rhoddwyd y fendith ar ddiwedd y noson gan y Parch Cen Llwyd. I ddilyn y canu, roedd te a mince pie wedi cael eu gweini ar gyfer pawb yn y festri gan wragedd caredig y capel. Braf oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi fewn, er gweithia’r hin oer tu allan.

Capel Pisgah

BYDD oedfa gymun nesaf yn y capel uchod ar fore Sul, 13 Rhagfyr am 10.30yb. Cynhelir gwasanaeth a pharti yr Ysgol Sul ar nos Sul, 20 Rhagfyr am 7yh yn y capel ac yna i lawr i’r Neuadd Goffa.