Capel y Fadfa

CYNHELIR Gwasanaeth Nadolig y Plant nos Sul nesaf am 7yh. Cyfle i glywed y plant yn mynd drwy eu pethau ar lafar a chân wrth iddynt ddod a stori’r Nadolig yn fyw unwaith yn rhagor i’r gynulleidfa. I ddilyn bydd Siôn Corn yn dod ar ymweliad â’r Festri i anrhegu’r plant sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul yn wythnosol ar hyd y flwyddyn. Mae gwahoddiad yn cael ei estyn i bawb i ymuno yn y te parti blynyddol, felly siawns i gael cymdeithasu dros baned a chacen.Cofiwch droi mewn i ddangos cefnogaeth i’r plant

Capel Pisgah

CYNHELIR gwasanaeth a pharti yr Ysgol Sul nos Sul nesaf am 7yh ac yna i lawr i’r Neuadd Goffa ar gyfer y Parti Nadolig.Carolau’r NadoligNOS FAWRTH nesaf am 7yh cynhelir noson o garolau yn y Neuadd Goffa, gyda Heledd Llwyd yn arwain y gân ac Enfys Llwyd yn cyfeilio. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Ddialysis yn Ysbyty Glangwili.Noson LawenHYFRYD oedd gweld Mari Mathias, un o ferched ifanc y pentref, yn canu ar y rhaglen Noson Lawen nos Sadwrn diwethaf. Roedd hi yn canu am y Crug Mawr – cân yr oedd hi wedi ei hysgrifennu ei hunan. Mae Mari hefyd yn aelod o’r band Raffdam sydd yn prysur wneud enw da iddynt eu hunain.

Neuadd Goffa

NOS FERCHER diwethaf roedd Cwmni Theatr Gydweithredol Troedyrhiw wedi dod ar ymweliad â’r Neuadd Goffa i berfformio’r ddrama Pobl yr Ymylon a gafodd ei hysgrifennu nôl yn 1927. Roedd hon yn un o ddramau mwyaf poblogaidd yr oes, pryd oedd o leiaf un cwmni drama ym mhob pentref ar hyd a lled y gorllewin yn ei pherfformio. Stori sydd yn dal i fod yn berthnasol i ni heddiw. Braf oedd gweld cymaint wedi dod i wrando ar y ddrama afaelgar hon.Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r neuadd.