Capel Pisgah

CYNHELIR taith gerdded flynyddol y capel ddydd Sadwrn nesaf.Pawb i gwrdd ym maes parcio’r capel am 1yp. Cesglir tuag at ‘Hosbis yn y Cartref’. Croeso i bawb.

Ysgol Gynradd

CROESO arbennig i’r plant newydd sydd wedi ymuno â ni yn yr ysgol, sef Charlie, Cassi, Jason ac Adam.Bu’r canlynol yn llwyddiannus yn adrannau celf a chrefft Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.Yn gyntaf oedd Erin Griffiths, Alaw Silvestri-Jones a Morgan Reeves, yn ail oedd Maisie Jones, Jano Evans, Morgan Reeves (2) ac yn drydydd roedd Owain Tomos, Meryl Evans, Fflur Evans a Morgan Reeves.

Capel y Fadfa

FORE Sul diwethaf cynhaliwyd oedfa arbennig yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Cafwyd anerchiad pwrpasol ac amserol gan y gweinidog a oedd yn gwneud inni feddwl yn ddwys pam ein bod yn mynd i’r cwrdd. Cofiodd y gweinidog am Nans Jones a fu farw yn ddiweddar ac estynnodd gydymdeimlad â’r teulu.I ddilyn yn y prynhawn cynhaliwyd Cymanfa Bwnc ar gyfer capeli Bwlch y Fadfa, Llwynrhydowen, Pantydefaid a’r Graig yng Nghapel Pantydefaid.Roedd cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd o’r pedwar capel ar gyfer yr achlysur blynyddol.Y Parch Thomas oedd â gofal gweithgareddau’r prynhawn a braf oedd clywed y plant yn ymateb mor dda i gwestiynau’r gweinidog.Bu Caio ac Owain yn rhoi dau emyn allan, ymarfer iddynt ar gyfer y Gymanfa Ganu ddydd Sul nesaf. Wrth yr organ oedd Hefina Davies.Sialens yr oedolion oedd darllen darnau o waith y diweddar Dr Elwyn Davies, gyda’r plant yn beirniadu’r partïon cyd-adrodd. I’r festri aeth pawb wedyn i gael paned a chyfle i gymdeithasu yng nghwmni ffrindiau.Ddydd Sul nesaf cynhelir Cymanfa Ganu’r enwad yng Nghapel Ciliau Aeron.Tro’r plant a’r ieuenctid fydd hi i ganu yn y cyfarfod am 2yp, gyda Catrin Evans o Dalgarreg yn arwain ac Eirian Jones yr organyddes. Yn cadw trefn fydd y Parch Cen Llwyd.Tro’r oedolion fydd hi yn y cyfarfod am 5.30yh i gyd-ganu ac mae yna gais i Undodiaid ardal y Smotyn Du i ddod i gefnogi’r Gymanfa. Bydd lluniaeth yn cael ei ddar-paru rhwng y ddau gyfarfod.

Eisteddfod

ERBYN hyn mae rhaglen yr eisteddfod gadeiriol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 7 Mai, yn neuadd y pentref allan. Y beirniaid fydd Rhiannon Lewis o Genarth ar yr adran gerdd, Ann Pash o Gastellnewydd Emlyn fydd yn beirniadu’r adran lefaru a’r Prifardd Idris Reynolds fydd yng ngofal yr adran lên.Braf fydd cael croesawi Robert Blayney yn ôl i feirniadu’r adran arlunio unwaith eto. Mae Jonathan Morgan yn hen gyfarwydd a dod i gyfeilio atom yn yr eisteddfod erbyn hyn a braf fydd ei weld unwaith yn rhagor. Llywydd y dydd fydd Gwyn Jones ac er ei fod yn byw ym Machynlleth ers blynyddoedd bellach, mae ei wreiddiau yn ddwfn yn Nhalgarreg a Chapel y Fadfa, hyfryd fydd cael ei groesawi. Mae’r rhaglen yn cynnwys rhestr o gystadlaethau gwahanol, gyda rhywbeth a fydd yn siwtio pawb. Dyddiad cau’r adran lên yw dydd Gwener yma, 22 Ebrill.Am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr (01545 590383) neu Enfys (01545 590295).