Capel y Fadfa

OEDFA Gymun fydd y Sul nesaf am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Ddydd Sul diwethaf cynhaliwyd Cymanfa Ganu’r enwad yng Nghapel Ciliau Aeron. Tro’r plant a’r ieuenctid oedd hi i ganu yng nghyfarfod y pryn-hawn, gyda Catrin Evans, Henbant yn arwain y canu ac Eirian Jones oedd yr organyddes. Yn cadw trefn ar bob dim yn ystod y dydd oedd y Parch Cen Llwyd. Hyfryd oedd gweld cymaint o blant wedi dod i gyd-ganu gydag arweinyddes mor ddawnus a oedd yn cael y gorau allan o’r plant. Llywydd y prynhawn oedd Catrin Ahmun, sy’n aelod yng Nghapel Rhy-dygwin. Cafwyd anerchiad pwrpasol a rhodd anrhydeddus ganddi. I’r neuadd aeth pawb ar ôl y canu bendigedig i fwynhau’r te ysblennydd a oedd wedi cael ei baratoi gan amryw o gyfeillion y Gymanfa. Tro’r oedolion oedd hi yng nghyfarfod yr hwyr i gyd-ganu, eto dan arweinyddiaeth Catrin gydag Eirian wrth yr organ. Y Parch Cen Llwyd gyflwynodd llywydd yr hwyr, sef Janet Evans o Giliau Aeron. Cafwyd anerchiad pwrpasol a rhodd hael iawn ganddi at goffrau’r gymanfa. Rhoddwyd y diolchiadau gan y Parch Cen Llwyd a chyflwynwyd y fendith gan y Parch Wyn Thomas ar ddiwedd y gymanfa. Caws, gwin a chlonc NOS Wener ddiwethaf cynhaliwyd noson arbennig yn Nhafarn Glanyrafon, gyda phanel o siaradwyr profiadol, sef Emyr Llewelyn, Karen Owen a Tudur Dylan Jones yn trin a thrafod ambell i gwestiwn a ddaeth i’w rhan gan ga-deirydd y panel, Dylan Iorwerth. Cafwyd cyfle i fwynhau gwydred o win a phob math o gaws a oedd wedi cael eu rhoi am ddim gan gwmnïoedd lleol er budd y noson. Roedd y digw-yddiad wedi cael ei noddi gan Siop y Smotyn Du, Cartrefi’r Cwm a Chyfreithwyr Ruth Thomas. Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at ddwy elusen, sef BAWSO ac Ymchwil Parkinsons a braf yw cyhoeddi fod yna elw sylweddol wedi ei wneud. Pwyllgor Yr Ymofynnydd oedd wedi trefnu’r noson neilltuol hon a diolch iddynt am eu gwaith da.

Ysgol Gynradd

DA iawn i bawb am gystadlu ac am gwblhau’r cwrs rhedeg trawsgwlad yn ddiweddar. Daeth y canlynol yn y 15 cyntaf a phob lwc iddynt yn Nhraw-sgwlad y Rhanbarth ar 29 Ebrill yng Nghlwb Rygbi Aberaeron: Mali (3ydd), Gwydion (1af), Caio (7fed), Elen (12fed), Alaw (2ail), Gwennan (9fed), Jano (11fed), Gethin (9fed) a Johnathan (14eg).