Doedd dim ond tair sedd wag ar 15 Ionawr yn Festri’r Morfa ar gyfer sgwrs Thomas (Thom) Morgan, Siop Inc i Ferched y Wawr.

Roedd Delyth Evans cadeirydd y noson a phawb eisiau anfon eu dymuniadau gorau i Megan sydd newydd ddechrau triniaeth annisgwyl yn yr ysbyty.

Disgrifiodd Thom ei hunan fel ‘ddim mor dda yn yr ysgol’ ond wastad â diddordeb mewn celf ac arlunio, felly doedd dim syndod pan aeth e i Brifysgol John Moores yn Lerpwl i’w hastudio.

Roedd gan bawb ddiddordeb mewn dysgu ei fod e’n byw ar gwch yn King’s Cross Llundain am dros 10 mlynedd.

Roedd yn sefyllfa gyfyngedig iawn, yn enwedig ar gyfer artist, gyda’i holl offer.

Datrywyd y broblem gan Thom gan ei ddewis gyfrwng, sef dyfrlliw.

Dangosodd Thom i ni’r gwahaniaeth rhwng dyfrlliw, gouache ac acrylig, a llawer o luniau sydd yn defnyddio pob cyfrwng.

Roedd yn ddiddorol iawn gweld y tri chyfrwng drws nesa’i gilydd.

Wrth gwrs, mae cyfrifiadur yn chwarae rhan bwysig yn mywyd pob artist proffesiynol y dyddiau ’ma, ac nid yw Thom yn eithriad.

Mae Thom yn brysur iawn ar hyn o bryd yn helpu Angharad yn Siop Inc (Stryd y Bont), ac yn arlunio cardiau a phosteri hyfryd a lliwgar, yn aml ar themâu Cymreig, i’w gwerthu yn y siop.

Mae fe’n gweithio hefyd i gyhoeddwyr adnabyddus iawn yng Nghymru fel Atebol a’r Lolfa, yn darlunio cloriau llyfrau a llyfrau i blant. Bid siŵr y bydd ei waith yn gyfarwydd i chi.

Diolch Thom am sgwrs addysgiadol a phleserus.

Bydd cyfarfod hwyrol nesa ar 19 Chwefror am 7yh, barod o fwyta am 7.30yh, yng Ngwesty’r Four Seasons pan fyddwn ni’n dathlu Gŵyl Dewi gyda Nest Jenkins.

Bydd cyfarfod nesa’r Clwb Llyfrau ar 19 Chwefror am 2yp yng Ngwesty’r Marine pan fyddwn ni’n trafod ‘Hiwmor Tri Chardi Llengar’ gan Geraint H Jenkins.

Bydd croeso mawr i aelodau newydd ym mhob cyfarfod o Ferched y Wawr.