Cyngor cymuned

CARFFOSIAETH Llanfihangel-y-Creuddyn: Cafwyd ddiweddariad o’r sefyllfa gan y Cyng J Powell a Cyng Sh Edwards ynghyd ag adroddiad llafar ar gyfarfod safle gyda Alan Davies, swyddog o’r cyngor sir. Deallir fod mwyafrif o’r profion wedi eu cwblhau ond fod angen parhau i brofi ambell i biben arall. Y clerc i gysylltu gyda’r cyngor sir i sicrhau bod y profion yma yn cael eu cwblhau fel mater o frys. Diffibrilwyr: Cyfeiriwyd fod hyfforddiant ar gyfer yr uchod wedi trefnu ar gyfer unigolion. Deallir fod y Ford Gron wedi cyfrannu at gost y diffibrilwyr yn yr ardal a chytunwyd i ddanfon llythyr at y sefydliad perthnasol. Coed ar y B4340: Adroddodd y clerc ar ohebiaeth a dderbyniwyd wrth Huw Morgan, cyfarwyddwr strategol: cymunedau cynali-adwy, mewn ymholiad i ohebiaeth a ddanfon-wyd at y cyngor sir gan y cyngor cymuned. Deallir yn ôl yr ohebiaeth uchod fod y rhybuddion statudol wedi cael eu cyhoeddi yn rhy fuan cyn derbyn adroddiad terfynol yn ymwneud ag arolwg llawn ar sefyllfa ystlu-mod yn y coed. Yn dilyn derbyn yr adroddiad tynnwyd y rhybuddion statudol yn ôl. Deallwyd y gwneir ychydig o waith cych-wynnol ar y canghennau anniogel, o ran iechyd a diogelwch, ond ni fyddid yn torri mwyafrif y coed hyd mis Medi pan fydd llai o broblemau yn ymwneud gyda’r ystlumod. Arwyddion ffyrdd: Dim gweithred hyd yn hyn yn ymwneud ag arwyddion ffyrdd ger Cwmseiri, ger Fferm Trawsgoed, a ger yr hen Ysgol Llanafan. Goryrru gan gerbydau lorïau sbwriel: Der-byniwyd ymateb gan swyddog o’r cyngor sir yn cyfeirio fod gyrwyr lorïau i gyd wedi cael gwybod i fod yn ymwybodol o’i cyflymder yn enwedig drwy trefi a phentrefi. Materion cyllidol: Derbyniwyd swm o £64.91 addaliad TAW. Ceisiadau cynllunio: Cais Cynllunio A140259: Tynyfron, Llanafan, Aberystwyth: Tynnwyd y cais canlynol yn ôl: Y bwriad i godi annedd menter wledig ynghyd â mynediad newydd o’r fferm bresennol. Cais cynllunio newydd: A150351: Capel Afan, Llanafan, Aberystwyth. Bwriad i newid defnydd o gapel segur i ddefnydd preswyl ynghyd â chodi garej, adeiladau allanol sefydlog a bio. Ffurfio mannau parcio ychwanegol. Nid oedd gwrthwynebiad i’r cynlluniau, yn wir teimlai aelodau Cyngor Cymuned Trawsgoed bod yn beth da i weld hen adeiladau yn cael eu hadnewyddu yn hytrach na chael eu gadael i ddirywio, ond codwyd peth pryder ynghylch nifer y llefydd parcio sydd ar gael o amgylch y datblygiad ar gyfer defnydd y cyhoedd. Mae festri’r capel yn parhau mewn defnydd ar gyfer gwasanaethau y Sul a hefyd yn cael ei defnyddio gan sefydliadau lleol, e.e Merched y Wawr, ble mae aelodau yn aml yn oedran-nus ac yn ei chael yn anodd i gerdded ar wahân i bellterau byr. Felly gofynnir i ystyriaeth gael ei roddi i sicrhau bod llefydd parcio digonol yn cael eu cadw ar gyfer aelodau’r cyhoedd wrth ymyl y festri. Datganodd y Cyng B Jenkins ddiddordeb wrth drafod yr uchod ac ymadawodd â’r ystafell. Nodir, ni wnaeth y Cyng Rowland Jones gymryd rhan yn y drafodaeth yn ymwneud â’r uchod.