English Methodist Church

The service on Sunday, 22 November, will be held in the Memorial Hall, led by Peter Cotgrove, beginning at 2.30pm.

The service next week will be at the earlier time of 2pm in Bryntirion Centre.

Capel Bwlchgwynt

Cynhelir oedfa bore Sul, 22 Tachwedd am 10yb dan ofal Huw Roderick.

Whist drive

A whist drive will be held at the Bowling Club on Saturday, 21 November at 8pm. Warm welcome to all.

Show dinner

THE Agricultural and horticultural show will be holding the annual dinner on Saturday, 28 November at 7pm for 7.30pm, in the rugby club.

All welcome, contact Cheryl Bulman on 01974 298177 by 21 November if you wish to attend.

Clwb Cerdded/Walking Club

The next walk is scheduled for 26 December and is called Tackle the Turkey Trek. The leader is Dafydd Wyn Morgan (01974 298 150).

The walk is a grade A (easy) walk which should last approximately two hours and is over a distance of four miles.

The meeting point is outside Y Talbot at 10am.

Cymdeithas Hanes

Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau, 26 Tachwedd am 7.30yh yn Festri Bwlchgwynt.

Edrychwn ymlaen at Eirian Jones, Llangeitho yn rhoi hanes y Mynydd Bach i ni.

Oedfa Deuluol

Fore Sul, 15 Tachwedd, braf eto oedd gweld y festri yn llawn i’r Oedfa Deuluol.

Cafwyd gwasanaeth bendithiol o dan ofal Parch Carwyn Arthur.

Dechreuwyd yn ôl yr arfer gyda’r plant yn adrodd eu hadnodau.

Rhoddwyd yr emynau allan gan Gethin a Dafydd Bennett, Elin, Ifan a Mari Williams, Osian Jones, Gwenno a Megan Dark.

Offrymwyd gweddi gan Ianto James a chasglwyd gan Dafydd Bennett ac Ifan Williams; roedd Anni Grug, Carys Down a Twm James yn bresennol.

Cyfeiliwyd gan Llinos James a diolchwyd i bawb a gyfrannodd i’r gwasanaeth gan David Bennett.

Dymunwyd yn dda i Alicia sy’n ymweld â’i theulu yn Patagonia yr wythnos hon.

Y Gymdeithas

Cafwyd noson i’w chofio yn y Gymdeithas ar nos Fawrth, 3 Tachwedd, yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu Cofia’n Gwlad Benllywydd Tirion, gyda Alice Jones yn cyfeilio.

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan John Lewis, cyn mynd ymlaen i gyflwyno ein gwr gwadd sef Idris Reynolds.

Mae’n byw ym Mrynhoffnant, ac yn enillydd cadeiriau cenedlaethol Eisteddfodau Dyffryn Conwy 1989 ac Aberystwyth 1992. Mae’n cystadlu’n gyson yng ngornest Talwrn y Beirdd.

Gyda dathlu canmlwyddiant T Llew Jones eleni, pleser oedd gwrando arno yn traethu mor naturiol ar fywyd y bardd yma.

Cafwyd portread arbennig o fywyd T Llew trwy gyfrwng storïau difyr a barddoniaeth, ynghyd â hanesion diddorol o feirdd y fro.

Gorffennodd gyda geiriau’r gân adnabyddus Cwm Alltcafan.

Diolchwyd yn gynnes iddo gan John am noson fythgofiadwy ac am rhoi hanes bardd sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd plant Cymru trwy’r blynyddoedd. Edrychwn ymlaen yn awr i ddarllen ei lyfr newydd Y Fro Eithinog – casgliad o gerddi T Llew Jones.

Cafwyd paned o de a chyfle i gymdeithasu cyn troi am gartref.

Nos Fawrth, 8 Rhagfyr, cynhelir Noson Nadoligaidd dan ofal Evan ac Alice Jones.