YR wythnos hon cyhoeddir hunangofiant Cymro amlycaf Lerpwl – D Ben Rees.
Yn y gyfrol gyda’r teit ‘Di-ben-draw’, mae’r awdur yn olrhain ei daith o’i fagwraeth yn Llanddewi Brefi i ddinas fyrlymus Lerpwl, lle mae wedi ymgartrefu bellach ers dros ddeugain mlynedd.
Mae’r gyfrol yn ategu cyfraniad aruthrol D Ben Rees i’w gymuned yn Lerpwl a hefyd i Gymru - boed hynny fel cenedlaetholwr sosialaidd a ymladdodd etholiadau seneddol, yn lefarydd ar radio a theledu, yn lyfrbryf, yn gaplan mewn ysbytai a charchardai, yn awdur toreithiog, cyhoeddwr, golygydd ac yn hanesydd sy’n arbenigo ar hanes Cymry Lerpwl, dinas Lerpwl a chenhadaeth dramor yr enwad yng ngogledd ddwyrain yr India.
Mae’r gyfrol yn llanw bwlch gan ei fod yn crynhoi profiadau gweinidog o Gymro mewn dinas fawr yn Lloegr. Y mae yn gyfrol unigryw gan mai dyma destament olaf gweinidog ymneilltuol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ninas y Sgowsers ac yn sicr ni wêl y Cymry byth eto Weinidog Ymneilltuol llawn-amser ar lannau’r Mersi.
Ceir hanes diflewyn ar dafod y pregethwr ar hyd troeon ei yrfa liwgar a helbulus. Mae’n wleidydd pybyr, yn areithiwr tanbaid, yn hanesydd manwl ac yn llenor toreithiog. Bu’n gyfrifol am sefydlu gwasg gyhoeddi cyhoeddiadau modern a chyhoeddodd nifer o gyfrolau yn arbennig ar hanes Cymry Lerpwl.
See this week’s south editions for the full story, in shops now or online by clicking the Digital Editions tab at the top of the page
See more photos of the event on our photo gallery by clicking the link below!




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.