Mae ymgyrch i godi cerflun o’r bardd, morwraig a’r newyddiadurwraig Sarah Jane Ress yn Llangrannog wedi cael ei lansio.

Yn fwy adnabyddus yn ôl ei henw barddol, Cranogwen, roedd Sarah Jane Rees yn arloeswr mewn nifer o feysydd – o farddoniaeth i newyddiaduraeth.

Cafodd ei disgrifio fel “merch Gymreig fwyaf nodedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg.”

Wedi ei geni yn 1839 a’i magu yn Llangrannog, enillodd ei thystysgrif prif forwraig – cymhwyster a oedd yn caniatáu iddi reoli llong yn unrhyw ran o’r byd.

Daeth yn brifathrawes yn 21 oed, a diolch i’w sgiliau ysgrifennu, daeth yn seren dros nos yng Nghymru gan mai hi oedd y wraig gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865.

Ar adeg pan nad oedd hi’n dderbyniol i fenywod siarad yn gyhoeddus, cychwynnodd yrfa fel darlithydd a phregethwraig – gan deithio ledled Cymru ac America ddwywaith.

Hi oedd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod – Y Frythones.

Roedd hwn yn ymgyrchu dros addysg marched.

Hi hefyd sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De. Ac er na fu hi byw i weld ei breuddwyd o d? i ferched digartref yn cael ei adeiladu, agorwyd y lloches Llety Cranogwen er cof iddi ar ôl ei marwolaeth.

I dynnu sylw at ei chyflawniadau sylweddol mae grwp o fenywod o ardal Llangrannog wedi dechrau’r ymgyrch er mwyn dathlu ei gyrfa arloesol.

Dechreuodd yr ymgyrch ar ôl i Granogwen gyrraedd rhestr fer pleidlais ddiweddar gan y BBC i godi cerflun i arwres o Gymru.

Ar ôl i brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, ennill y bleidlais, penderfynodd y grwp i barhau â’r ymgyrch i anrhydeddu Cranogwen.

Y dair fenyw arall ar y rhestr fer oedd Elizabeth Andrews, Elaine Morgan ac Arglwyddes Rhondda.

Meddai llefarydd ar ran y grwp sydd yn codi arian ar GoFundMe: “Rydym yn dîm o fenywod o Langrannog a Phontgarreg, gorllewin Cymru.

“Ein bwriad yw i ddathlu llwyddiannau a dylanwad pellgyrhaeddol yr arwres Cranogwen.

“Mi fydd pob ceiniog a gyfrannir yn mynd tuag at godi cerflun efydd ohoni er mwyn diolch iddi am arwain y ffordd ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesa.”

Mae’r fenter yn cael ei chefnogi gan Monumental Welsh Women, gyda’r bwriad i godi £10,000.