Seydliad y Merched
CROESAWYD Annwen Davies, Ceidio i gyfarfod mis Mawrth. Cawsom hanes ei gyrfa fel gwneuthurwraig dillad yn gweithio mewn ffatri yn y Rhiw yn y 60au yn gwneud blowsis i gwmni Littlewoods. Symud ymlaen wedyn i weithio i gwmni ym Mhwllheli ac erbyn hyn mae ganddi fusnes ei hun yn cywiro dillad a dodrefn ysgafn. Diolch iddi am noson addysgiadol a chartrefol. Anfonwn ddymuniadau gorau am wellhad buan i Catrin Jones, Ystohelyg Bach ar ôl llawdriniaeth yn ddiweddar. Carol Jones o Welsh Lady Preserves, Y Ffôr oedd ein gwraig wadd mis Ebrill. Cwmni teuluoedd ydi’r busnes sydd yn adnabyddus am ennill gwobrau am eu cynnyrch a chafwyd cefndir sut ddechreuwyd y fenter yn ôl yn y 60au drwy gyfrwng sleidiau. Roedd cyfle ar y diwedd i brofi ac i brynu.
Byddwn yn ymuno â Sefydliad Sarn ar 9 Mai i drafod yr penderfyniadau fydd ger bron yn y cyfarfod blynyddol yn Brighton.




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.