Fel rhan o gynllun Ysgolion Arloesol Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgol Gymraeg wedi datblygu partneriaethau proffesiynol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod, Dewi Sant er mwyn darparu hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs hyfforddiant athrawon.Yn ystod tymor yr hydref mae’r ysgol wedi darparu cyfres o wersi ar gyfer 15 o fyfyrwyr sy’n treulio pob ddydd Mercher yn yr ysgol er mwyn datblygu medrau Llythrennedd, Rhifedd, TGCh a Medrau Meddwl.

Defnyddiwyd y thema T Llew Jones fel llinyn i gysylltu’r gwersi at ei gilydd. Dymuna’r ysgol ddiolch i Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Mari Owen o Arad Goch, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Hyfforddiant Dawns Rachel West, Mererid Hopwood a Llywodraeth Cymru am bob cymorth ac arweiniad gyda’r cynllun arloesol hwn