CAFODD disgyblion Bl 4 Ysgol Gynradd Nefyn brynhawn o hwyl a creu cerdd yng nghwmni neb llai na Anni Llyn, sef Bardd Plant Cymru.Roedd hi’n falch iawn o’r cyfle o gael dod adref i Pen Llyn a hithau yn dod o’r Sarn. Enillodd y disgyblion y cyfle i gael ei chwmni ar ôl ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgelloedd Cyngor Gwynedd i ysgolion cynradd.
Roeddant yn gorfod creu modelau wedi eu creu a’r themau o lyfr T Llew Jones, Penillion y Plant.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.