Mae awdur profiadol a phoblogaidd o Geredigion wedi cyhoeddi llyfr newydd yr wythnos hon.

Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn gan Daniel Davies yn ddilyniant hir disgwyliedig i Tair Rheol Anhrefn, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, ac yn trafod rhai o ddilemas mawr defnyddio technoleg newydd wrth warchod a diogelu.

Cafodd Tair Rheol Anhrefn adolygiadau gwych, gydag Elin Llwyd Morgan yn ei disgrifio fel nofel “afaelgar gan awdur sy’n gwybod sut i gyflwyno chwip o stori”, ac Emyr Llywelyn yn ei galw’n “nofel soffistigedig, gyfoes a llawn hiwmor gan nofelydd sy’n storïwr wrth reddf”.

Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn yn nofel gyfoes ffraeth â llinyn storïol cryf. Mae’n parhau gyda stori Dr Paul Price a’i gariad Llinos Burns, ond yn sefyll ar ei thraed ei hun.

Dywedodd Daniel, sy’n wreiddiol o Lanarth ond nawr yn byw yn Penbontrhydybeddau, ger Aberystwyth: “Mae’r stori’n ymwneud â chyfrifoldeb gwyddonwyr o ran eu damcaniaethau a’r ffordd mae eu syniadau’n cael eu defnyddio gan wleidyddion wrth i’r ddwy garfan ffurfio cytundeb Ffawstaidd sy’n cael effaith andwyol ar ddinasyddion.

“Mae’r antur gyffrous yn dilyn Dr Paul Price a Llinos Burns wrth iddyn nhw geisio dianc rhag yr heddlu cudd a brwydro â’u cydwybod ynglyn â’r cwestiwn o greu drôns.

“Mae’r nofel yn ‘thriller’ comig sy’n ceisio ymdrin â’r byd fel ag y mae. Mae’n stori garlamus sy’n tywys y cymeriadau ar wib ar draws Prydain ac Ewrop, gan ddychanu agwedd imperialaidd masnachfraint James Bond. Mae hefyd yn ymdrin â’r tensiynau gwleidyddol sy’n bodoli rhwng Prydain, Ewrop a Rwsia ar hyn o bryd,” meddai’r awdur.

I ddarllen y stori lawn, gwelwch bapur wythnos yma, yn siopau nawr