Mae’r Frenhines Canu Gwlad wedi derbyn ei phensiwn eleni – ac ar yr un pryd wedi ysgrifennu ei hunangofiant.

Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Doreen Lewis, y ffarmwraig a’r gantores o Ddyffryn Aeron, dwy garreg filltir.

Daeth i oedran pensiwn, gan ddathlu hefyd hanner can mlynedd o berfformio ar lwyfannau Cymru a thu hwnt.

Roedd Doreen yng nghanol berw digwyddiad canu pop y chwedegau. Ac yn wahanol i’r rhelyw o’i chyd-oeswyr cerddorol, mae hi’n dal i berfformio.

Llwyr enillodd yr hawl i gael ei disgrifio fel Brenhines Canu Gwlad.

Hi yw’r unig ferch yn hanes y canu pop Cymraeg i’w chyflwyno â disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.

Siarad am y ddisg aur, dwedodd Doreen yn y llyfr: “Fe fues yn ffodus o gael fy nal yng nghorwynt oes aur y canu yng Nghymru.

“Roedd yna ryw gynnwrf yn y gwynt, rhyw deimlad fod pethau yn digwydd.

“Dwi’m yn meddwl bod cyfnod tebyg wedi bod ers hynny. Pam? Am fod pobol yn gyndyn heddiw i fynd allan i wrando ar gerddoriaeth.

“Mae pawb yn eistedd ar y soffa yn ‘streamio’ eu cerddoriaeth neu’n gwylio fideos ar YouTube.

“Mae’r sîn gerddoriaeth wedi newid yn llwyr.

“Bryd hynny, byddai cannoedd yn troi allan bob penwythnos i wrando ar y cerddoriaeth diweddaraf.

“Y Meca, wrth gwrs, oedd y Pafiliwn Mawr yn y Bont gyda’r Pinaclau Pop a’r Tribannau Pop.

“Fe fyddai’r lle dan ei sang.

“Cynhelid nosweithiau pop yno tuag unwaith y mis a deuai bysys yno bob rhan o Gymru.

“Ac er mor fawr oedd y pafiliwn – roedd yna le i dair mil – roedd gofyn bod yno’n gynnar i gael sedd.

“Y tro cyntaf wnes i berfformio yno fe ges i dal o ddwybunt.

“Ond nid yr arian oedd y peth pwysig.

“Roedd e fel rhyw ddiwygiad cerddorol a sgubodd drwy’r wlad.”

Am yr erthygl lawn, gwelwch bapur wythnos yma