CYNHALIWYD Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar nos Iau, 29, a dydd Sadwrn, 31 Hydref ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.
Roedd y Pafiliwn yn orlawn i’r ddwy sesiwn, gan gadarnhau bod yr Eisteddfod yn un o brif atyniadau y ffermwyr ifanc yn eu calendar llawn o weithgareddau.
Cloriannwyd y cystadlaethau gan y beirniaid canlynol - Canu – Meinir Jones Parry, Caerfyrddin; Llefaru – Siân Teifi, Caernarfon; Adran Ysgafn – Euros Lewis, Felinfach; Llên – Aneirin Karadog, Pontyberem; Cywaith Clwb – Iwan Meirion; Rhaglen y Clwb – Mared Jones; Celf – Rhiannon Ling; Ffotograffiaeth – Suzanne Ryder; Cyfansoddi Sgetsh a Chystadleuthau Aelodau - Mrs Dwynwen Lloyd Llywelyn, Theatr Felinfach a Cyfansoddi Alaw – Mrs Carys Griffiths-Jones, Aberaeron. Y cyfeilyddion oedd Gwawr Jones, Drefach a Lona Phillips, Abermagwr. Llywydd anrhydeddus yr Eisteddfod oedd Nanna Ryder, Tyngrug Ganol a chafwyd ganddi araith bwrpasol iawn a rhodd anrhydeddus i’r Mudiad. Noddwyd yr Eisteddfod eleni gan Tai Aeron; Oriel Aeron; Gerallt Lewis, Cegin Cig Cymru; R E Reynolds & Sons; Y Talbot; Plymwaith a Gwresogi AMD; Theatr Felinfach; Clic a Rhiannon, Tregaron. Diolch iddynt am gefnogi’r Eisteddfod.
Enillwyd yr eisteddfod gan glwb Llanwenog, gyda 118 o farciau, gyda chlwb Pontsian yn ail gyda 82 o farciau a Felinfach yn drydydd gyda 68 o farciau. Bu teilyngod yng nghystadleuaeth y gadair eto eleni, gyda Emyr Evans, Cadeirydd y Sir, oedd yng ngofal y Seremoni. Canwyd cân y cadeirio gan Huw Bryant o glwb Pontsian a seiniwyd y Corn Gwlad gan John Jenkins o glwb Lledrod. Traddodwyd y feirniadaeth gan Mererid Davies, Is-Gadeirydd y Sir, ar ran y beirniad Aneirin Karadog. Enillwyd y Gadair gan Endaf Griffiths o glwb Pontsian gyda’i gerdd ar y testun ‘Taith’. Rhoddwyd y gadair gan Enfys Hatcher, Brenhines y Sir a Dion Davies, Ffermwr Ifanc y Sir, o waith Carwyn Davies o glwb Llanwenog. Y rhyddiaith gan Luned Mair, Llanwenog ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth a rhyddiaith hefyd ddaeth yn drydydd - gwaith Rhian Evans o glwb Felinfach.
Dyma restr o’r rhai ag enillodd gwpanau’r Eisteddfod:
Parti Llefaru: Cwpan her Janet Morgan, Pant-Defaid – clwb Llanwenog.
Parti Deulais: Cwpan Coffa her parhaol Penlanlas Isaf – clwb Llanwenog.
Meimio i Gerddoriaeth: Cwpan her Mared Rand Jones - clwb Llanwenog.
Sgets: Cwpan her parti drama Dyffryn Cletwr – clwb Tregaron.
Emyn Nofis: Cwpan her Einir Ryder, Tyngrug Ganol – Heledd Evans, clwb Caerwedros.
Unawdydd gorau: Cwpan her Mr a Mrs Gwyndaf James – Nest Jenkins, clwb Lledrod.
Llefarydd gorau: Cwpan y diweddar Mr a Mrs Elfyn Owen – Gwion Ifan, clwb Pontsian.
Côr: Cwpan Her y diweddar Arglwydd Geraint Howells – clwb Pontsian.
Marciau uchaf yn y Gwaith Cartref: Cwpan her Heather Price, Esgereinon – clwb Llanwenog.
Marciau uchaf yn yr Adran Lwyfan: Tlws her Teulu Hatcher, Cefn Hafod - clwb Llanwenog.
Ail fuddugol yn yr Eisteddfod - Tlws Coffa y diweddar Mr Eryl Jones, Mydroilyn - clwb Pontsian.
Clwb Buddugol: Tlws Teulu Hafod Iwan – clwb Llanwenog.
Cafwyd hefyd ganlyniadau y cystadlaethau canlynol:
Llyfr Lloffion – 1. Mydroilyn; 2. Llanwenog; 3. Caerwedros.
Llyfr Trysorydd – 1. Troedyraur; 2. Llangwyryfon; 3. Caerwedros.
Llyfr Cofnodion – 1. Llanwenog; 2. Troedyraur; 3. Llangwyryfon.
Dyma ganlyniadau Eisteddfod nos Iau:
Unawd Cerdd Dant – 1. Elen Davies, Troedyraur.
Unawd Alaw Werin – 1. Enfys Hatcher, Llanwenog; 2. Caryl Haf Jones, Llanddewi Brefi; 3. Gwawr Hatcher, Llanwenog.
Meimio i Gerddoriaeth – 1. Llanwenog; 2. Felinfach; 3. Caerwedros.
Parti Cerdd Dant – 1. Llanwenog; 2. Pontsian.
Cân Gyfoes – 1. Lledrod; 2. Pontsian; 3. Caerwedros.
Canlyniadau Dydd Sadwrn:
Unawd 13 neu iau - 1. Carys Evans, Pontsian; 2. Sioned Davies, Llanwenog; 3. Nia Morgans, Llanwenog.
Llefaru 13 neu iau – 1. Hanna Davies, Llanwenog; 2. Gethin Jenkins, Mydroilyn; 3. Beca Jenkins, Pontsian.
Unawd 16 neu iau – 1. Heledd Evans, Caerwedros; 2. Hanna Davies, Llanwenog; 3. Gwion Thomas, Pontsian.
Llefaru 16 neu iau - 1. Gwion Ifan, Pontsian; 2. Mared Davies, Felinfach; 3. Mirain Davies, Caerwedros.
Unawd 21 oed neu iau – 1. Emily Jones, Llangwyryfon; 2. Mared Lloyd-Jones, Llanddewi Brefi; 3. Ianto Jones, Felinfach.
Llefaru 21 neu iau - 1. Meleri Morgan, Llangeitho; 2. Nest Jenkins, Lledrod; 3. Gethin Morgan, Bro’r Dderi.
Unawd 26 neu iau – 1. Iwan Davies, Llanddewi Brefi; 2. Caryl Haf Jones, Llanddewi Brefi; 3. Guto Lewis, Llanddeiniol.
Llefaru 26 neu iau – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2. Elin Jones, Llanwenog; 3. Hedydd Davies, Bro’r Dderi.
Canu Emyn Nofis – 1. Heledd Evans, Caerwedros; 2. Ffion Williams, Lledrod; cydradd 3. Dafydd James, Troedyraur ac Emily Jones, Llangwyryfon.
Monolog – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2. Meleri Morgan, Llangeitho; 3. Gethin Lewis, Mydroilyn. Unawd Offerynnol – 1. Nest Jenkins, Lledrod; 2. Jay Snow, Troedyraur; cydradd 3. Mali Lewis, Llanddeiniol a Cerith Morgan, Llangeitho.
Canu Emyn – 1. Ianto Jones, Felinfach; 2. Deiniol Organ, Troedyraur; cydradd 3. Rhys Griffiths, Penparc a Caryl Haf Jones, Llanddewi Brefi.
Ensemble Lleisiol – 1. Troedyraur; 2. Mydroilyn; cydradd 3. Caerwedros a Llanddewi Brefi.
Parti Llefaru – 1. Llanwenog; 2. Llangeitho; 3. Troedyraur.
Deuawd – 1. Elliw a Hedydd, Bro’r Dderi; 2Gethin a Gareth, Mydroilyn; 3.Rhys ac Iwan, Llanddewi Brefi.
Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm - 1. Lia Mair Jones, Mydroilyn; 2. Iwan Davies, Llanddewi Brefi; 3. Bethan Davies, Pontsian.
Sgets - 1. Tregaron; 2. Lledrod; 3. Llangeitho.
Stand-Up – 1. Huw Bryant; Pontsian; 2. Elliw Dafydd, Bro’r Dderi; 3. Twm Ebbsworth, Llanwenog.
Parti Deulais – 1. Llanwenog; 2. Pontsian; 3 - Troedyraur. Deuawd Doniol - 1. Endaf a Rhodri, Pontsian; cydradd 2. Owain a Bleddyn, Felinfach a Gwenan a Lia, Mydroilyn.
Côr - 1. Pontsian; 2. Mydroilyn; 3. Llanwenog.
Gwaith Cartref
Rhyddiaith – 1. Luned Mair, Llanwenog; 2. Rhian Evans, Felinfach; 3. Enfys Hatcher, Llanwenog. Cerdd – 1. Endaf Griffiths, Pontsian; 2. Siwan Davies, Llanwenog; 3. Rebecca James, Llanddewi Brefi.
Cyfansoddi Alaw – 1. Carys Evans, Llanwenog; 2. Cerith Morgan, Llangeitho; 3. Alpha Evans, Llanwenog.
Cywaith Clwb – 1. Llanwenog; 2. Mydroilyn; 3. Llangeitho.
Adroddiad i’r Wasg – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2. Enfys Hatcher, Llanwenog; 3. Megan Lewis, Trisant.
Blog o’r Pentref Ieuenctid – 1. Aron Dafydd, Bro’r Dderi; 2. Bleddyn Jones, Llangeitho; 3. Sioned Owens, Felinfach.
Creu Pwerbwynt i Hyrwyddo Eisteddfod CFfI – 1. Dafydd James, Troedyraur; 2. Ffion Jenkins, Llanwenog; 3. Briallt Williams, Llanwenog.
Cyfansoddi Sgets – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2.Enfys Hatcher, Llanwenog; 3. Twm Ebbsworth, Llanwenog.
Brawddeg – 1. Rhodri Ellis Jones, Llangwyryfon; 2. Morys Ioan, Caerwedros; 3. Carys Stephens, Mydroilyn.
Limrig – 1. Enfys Hatcher, Llanwenog; 2. Mared Lloyd-Jones, Llanddewi Brefi; 3. Meleri Morgan, Llangeitho.
Celf – 1. Hanna Jones, Mydroilyn; 2. Menna Williams, Llanwenog; cydradd 3. Carwyn Davies, Llanwenog a Beca James, Trisant.
Ffotografiaeth – 1. Heini Thomas, Bro’r Dderi; cydradd 2. Marged Ioan, Caerwedros a Geraint Davies, Mydroilyn. Rhaglen Clwb – 1. Felinfach; 2. Caerwedros; cydradd 3. Llanddewi Brefi, Llanwenog a Pontsian.
Pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli CFfI Sir Ceredigion yn Eisteddfod CFf.I Cymru a fydd yn cael ei gynnal eleni yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth ar 21 Tachwedd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.