Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn Neuadd Egryn ddydd Sadwrn, 18 Chwefror.

Y beirniaid eleni oedd: Cerdd, Cerdd Dant ac Alaw Werin - Nia Morgan, Bala. Llefaru a Llenyddiaeth Agored - Aled Lewis Evans, Wrecsam. Llenyddiaeth Cynradd – Arwel a Gwenfair Pierce, Bryncrug. Gwaith Celf - Mercia Hammond, Llanegryn.

Cafodd y gwaith celf a llenyddiaeth ei arddangos yn y neuadd. Cyflwynwyd gwobr er cof am Elain Heledd i’r perfformiad llwyfan gorau ac i’r eitem gelf orau yn y Cyfnod Sylfaen. Diolch i Mr a Mrs Puw am eu presenoldeb.

Diolch i’r ysgolion am eu cefnogaeth yn yr adran gwaith llaw ac yn y cystadlaethau llwyfan ac i Goleg Meirion Dwyfor am eu cefnogaeth gyda’r gwaith llenyddol.

Tudur Jones, Tywyn oedd yn cyfeilio yn ôl yr arfer, a'r arweinyddion oedd Janet Pugh, Eurgain Haf Davies ac Edward Jones. Diolch iddynt oll am eu gwaith.

Roedd yn braf croesawu Gareth Williams, Rhydaman yn ôl atom i Lanegryn fel Llywydd yr Eisteddfod eleni. Pawb yn ei adnabod fel mab Cath a Gron o’r pentref.

Cafwyd ychydig o hanes ei waith i lawr yn y de ac fe nododd pa mor werthfawr y teimlai yw’r profiad a’r cyfle mae plant yr ardal yn ei gael o allu cystadlu mewn eisteddfod fel hon.

Cafwyd atgofion melys ganddo sef cael mynd o dan llwyfan y neuadd wrth helpu Sulwyn noson cyn yr eisteddfod a chofio arogl melys a bwyd bendigedig gan Beryl ar ôl cystadlu.

Roedd safon cystadlu’r diwrnod yn uchel iawn a’r ddau feirniad yn canmol yn fawr. Braf oedd gweld cynifer wedi cystadlu yng gwaith llenyddol sesiwn yr hwyr.

Roeddem yn falch hefyd o glywed gan Aled Lewis Evans bod teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair, a braf oedd gweld Carwyn Sidall, Llanuwchllyn yn cael ei gadeirio ac yn derbyn cadair fechan o dderw wedi ei gwneud gan Dan Collister, Ysgol Llanegryn, Llanegryn.

Diolch yn fawr iawn i ‘Tywyn Bakery By Oliver’s’ am noddi cystadleuaeth y Gadair. Roedd Siw Harson, Staines, Middlesex yn ail a Gaenor Mai Jones, Hafod, Pentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf yn 3ydd. Diolch hefyd i Mererid Morris am ganu cân y cadeirio.

Canlyniadau Llwyfan

Unawd meithrin a derbyn: 1. Gwenno Evans 2. Aron Jones 3. Reuben Gibbins a Silyn Ifan Breese

Llefaru meithrin a derbyn: 1. Gwenno Evans 2. Reuben Gibbins a Silyn Ifan Breese

Unawd Bl 2 ac iau: 1. Evie Jones 2. Tomos Evans 3. Curig Breese a gwobr fach hefyd i Rosie Pugh ac Owain Jones

Llefaru Bl 2 ac iau: 1. Tomos Evans 2. Curig Breese 3. Owain Jones a Rosie Pugh

Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Perfformiad Llwyfan Gorau: Gwenno Evans

Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Gwaith Celf Gorau: Evie Jones

Unawd Bl 3 a 4: 1. Isla Jones 2. Aron Davies 3. Nansi Evans a Emmi Roberts

Llefaru Bl 3 a 4: 1. Nansi Evans, 2. Aron Davies 3. Isla Jones a Jack Pugh

Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4: Nansi Evans

Unawd Bl 5 a 6: 1. Jini Grug Dobson 2. Isaac Roberts 3. Lily Glenc a gwobr fach hefyd i Jesicca Gibbins a Hannah Mumford

Llefaru Bl 5 a 6: 1. Jini Grug Dobson 2. Gwilym Jones 3. Evie Hodges a gwobr fach hefyd i Ruby Llywarch Bayley a Jessica Gibbins

Parti Llefaru Bl9 ac iau: Ysgol Craig Y Deryn

Parti Unsain neu Deulais Bl 9 ac iau: Ysgol Craig Y Deryn

Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: 1. Jini Grug Dobson 2. Curig Breese

Deuawd Bl 9 ac iau: Aneira Jones a Diani-Grace Gibbins

Unawd Piano / Unrhyw Offeryn Cerdd Bl 9 ac iau: 1. Aneira Jones 2. Gwilym Jones

Llefaru Bl 7-9: 1. Aneira Jones

Unawd offerynnol dan 20 oed: 1. Lea Mererid Roberts 2. Aneira Jones

Unawd dan 20: 1. Erin Llwyd Jones

Sgen ti dalent?: 1. Erin Llwyd Jones 2. Rhys Jones 3. Aled Jones

Cyflwyno Tarian Côr Cymysg Bro Dysynni i’r eitem Gerddorol orau dan 20ain oed: 1. Lea Mererid Roberts 2. Jini Grug Dobson

Canu Emyn Agored: Aled Jones

Cân Werin Agored: 1. Robert John Roberts 2. Aled Jones

Unawd o Sioe Gerdd Agored: Erin Llwyd Jones

Llefaru Agored: Cydradd 1af Erin Llwyd Jones a Rhys Jones

Perfformiad Darn Digri Agored: 1. Rhys Jones 2. Erin Llwyd Jones

Cenwch I’m yr Hen Ganiadau Agored: Aled Jones

Canlyniadau Llenyddiaeth

Meithrin a Derbyn: 1. Reuben Gibbins 2. Gracie Hughes 3. Silyn ifan

Bl 1 a Bl 2: 1. Henry Thorpe 2. Rosie Pugh 3. Isla Wilkes a Niamh Hooper

Bl 3 a 4: 1. Jack Pugh 2. Alexis Gregory a Isla Jones 3. Edward Turner ac Eddie Thorpe

Bl 5 a 6: 1. Eva Crisp 2. Jos Turner 3. Evie Hodges a Flynn Nicholls

Dan 25 oed: Darn o farddoniaeth neu ryddiaith ar unrhyw ffurf hyd at 2,000 o eiriau: 1. Beca Haf Williams 2. Elin Williams 3. Lois Erin Jones

Cyfieithu Detholiad o lyfr ‘Victoria Derbyshire “Dear Cancer, love Victoria”: 1. Gwilym Hughes 2. Gaenor Mai Jones 3. Trefor Huw Jones

Parodi ar ‘Eifionydd’, R Williams Parry: 1. Bethan Davies 2. Olwen Griffiths

Brawddeg o’r gair ‘Chwyldro’: 1. Eurgain Owen 2. Bethan Davies 3. Olwen Griffiths

Canlyniadau Celf

Meithrin: 1. Alice Lewis 2. Arabella Bradbury Willis 3. Bella Fox

Derbyn: 1. Elsie Ellis 2. Rory Caro 3. Gracie Hughes

Bl 1 a 2: 1. Quinn Caro 2. Owain Jones 3. Isla Wilkes

Bl 3 a 4: 1. Jack Pugh 2. Caylen Fox 3. Kian Alexander

Bl 5 a 6: 1. Flynn Nicholls 2. Gwilym Jones 3. Sara Williams

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]