GWNAETH y canwr Dafydd Iwan lansio ei gyfrol o atgo­fion yn siop llyfrau Awen Meirion yn y Bala dros y penwythnos.

Mewn y llyfr newydd mae Dafydd yn hel atgofion o gwrdd ag agent provocateur yn 1969, cyn canu ar lwyfan yn Llanrwst.

Yn y llyfr, gyda’r teitl Pobol, mae’n disgrifio sut y gwnaeth swyddog a oedd yn honni bod yn aelod o gangen o Blaid Cymru yng Nghaergybi fynnu cael sgwrs ganddo “am gynllun dirgel i ladd y Prins”!

Gwylltiodd y canwr, gan ddweud ei fod “yn crynu o gynddaredd pan gyrhaeddodd y llwy­fan funudau’n ddiweddarach”.

Un stori ymhlith llawer yw hon yn llyfr newydd Dafydd wrth iddo ysgrifennu am rai o fawrion ein cenedl – a’r Prins!

O Lewis Valentine i Kate Roberts, o Graf i Merêd, dyma bortreadau byrion o dros 50 o Gymry – ac ambell Sais – sydd bellach wedi’n gadael ni.

Mae rhai yn Gymry amlwg yr oedd Dafydd Iwan wedi eu cyfarfod unwaith neu ddwywaith yn unig, eraill yn gyfeillion agos nad oedd yn adnabyddus y tu hwnt i’w milltir sgwâr, ond sy’n haeddu sylw.

Sut gafodd Dafydd fynediad i barti drwy gario neges i’r Archdderwydd Cynan? Beth ddysgodd am bresenoldeb llwyfan gan y reslwr Orig Williams?

Pa ateb gafodd gan yr awdures Kate Roberts pan ofynnodd iddi pam na ddewisodd gwell diweddglo i un o’i nofelau enwocaf? Ceir cip y tu ôl i sawl stori fawr a thrwy gynnig golwg wahanol ar bobol y credwn ein bod yn eu nabod, down hefyd i nabod yr awdur yn well.

“Y cymhelliad cyntaf oedd ceisio cyfleu i’r genhedlaeth iau bod enwau mewn hanes yn bobol o gig a gwaed. Ond roedd rhaid cynnwys cyfeillion agosach hefyd,” meddai Dafydd.

“Yr hyn a roddodd fod i’r gyfrol fach hon oedd meddwl mor ffodus oeddwn i o gael cyfarfod â rhai o feirdd a llenorion mawr ein cenedl, a gresynu ar yr un pryd na fydd y genhedlaeth nesaf yn cael y fraint honno.

“Fe wnaethant i gyd, yn eu ffordd eu hunain, adael eu marc arna i ac ar y byd.”

Bydd Dafydd yn enwog i nifer fel gwleidydd, awdur, cyflwynydd a chanwr – yn ogystal â dyn busnes a phregethwr.

Cafodd ei eni yn fab y mans ym Mrynaman, ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Forgannwg, ond treuliodd ei lencyndod yn Llanuwchllyn.

Bu’n gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith, yn lywydd Plaid Cymru rhwng 2003 a 2010, ac y mae’n sylfaenydd-gyfarwyddwr ar gwmni recordio Sain.

Mae ganddo nifer o gyfrolau hunangofiannol, sawl cyfrol o’i ganeuon ei hun, a thros 20 albym bellach wedi eu cyhoeddi.

Mae’n byw gyda’i briod Bethan yn Rhos-bach, ger Caernarfon, ac yn dad i bump.