Cymorth i Ysgol Gymraeg Newydd Patagonia

DDENG mlynedd yn ôl llof-nododd Maer Aberteifi siarter i selio’n swyddogol y gefeillio a ddigwyddodd rhwng y dre a phen-tref bychan wrth droed yr Andes ym Mhatagonia. Mwyach mae’r cyswllt rh-wng Aber teifi a Threvelin wedi tynhau’n sylweddol.Eleni, ym mlwyddyn dathlu 150 mlynedd ers glaniad y fintai gyntaf o Gymry yn y Wladfa, y mae cynl-lun uchelgeisiol ar waith yn Nhrevelin i agor ysgol ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg, sef Ysgol y Cwm, yng nghanol Cwm Hyfryd. Prif ddiddordeb Pwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin eleni fu casglu arian i gynnal yr ysgol newydd hon. Yn ddiweddar trosglwyddwyd 1,500 o ddoleri i gronfa’r ysgol adeg ymweliad cadeirydd y pwyllgor, Parch Eirian Wyn Lewis, ac un o’r aelodau, Maer Aberteifi, John Adams-Lewis (a lofnododd y siarter yn 2005) â Threvelin.Yno i’w croesawu roedd aelodau o bwyllgor yr ysgol ac Eluned Jones, swyddog datblygu’r Gymraeg, Menter yr Andes. Brodor o Gapel Newydd, ger Boncath, yw Eluned sy’n gweithio ym Mhatagonia. Dywedodd y Parch Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu, sydd wedi ymweld â’r Wladfa naw o weithiau: “Roedd yn hyfryd cwrdd unwaith eto â rhai o ddisgynyddion y Cymry cyntaf a sefydlodd y Wladfa, pobol sy wedi dod yn gyfeillion agos i mi erbyn hyn, a gweld eu brwdfrydedd a’u balchder wrth y gwaith o gadw a meithrin eu Cymreictod. “Cefais gyfle i weld yr ysgol newydd sy’n cael ei hadeiladu mewn llecyn gwych o fewn tafliad carreg i Gapel Bethel. Mae’n debygol y bydd yn agor mis Mawrth, gyda thua 80 o blant yn ei mynychu. “Bydd yr arian a gyflwynais ar ran y Pwyllgor Gefeillio yn help i brynu deunydd a chyfarpar dysgu hanfodol iddyn nhw.”Pentref bychan – gyda’i boblogaeth o tua 8,000 yn cynyddu’n gyson – yw Trevelin, tua 22 cilomedr o Esquel, prif ddinas talaith Chubut. Sefydlwyd y pentref yn 1885 pan gyrhaeddodd 50 o ffermwyr Cym-reig yno i amaethu un o gymoedd mwyaf gwyrddlas a ffrwythlon Patagonia – ardal hollol wahanol i’r man arfordirol diffaith lle glaniodd yr ymfudwyr cyntaf.Eu bwriad oedd ceisio diogelu eu traddodiadau Cymreig, eu hiaith a’u crefydd a oedd dan fygythiad yn eu mamwlad.