Sefydliad y Merched
LLYWYDDWYD cyfarfod mis Tachwedd gan Ceri ac estynnodd groeso cynnes iawn i’r aelodau oedd yn bresennol ac i Jean Lane VCO i’n plith i ddewis swyddogion am y flwyddyn 2016. Addawodd pawb i aros yn eu swydd bresennol am y flwyddyn i ddod. Llywydd, Ceri; is-lywydd, Ellen; ysgrifennydd, Sheila; trysorydd, Rose; ysgrifennydd y rhaglen, Marilyn; gohebydd y wasg, Ellen; clwb cynilo, Eirlys; gofalu am y raffl, Margaret.Cafwyd adroddiad o weithgareddau’r flwyddyn ddiwethaf gan Sheila, roedd wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ac yn llawn o hwyl a sbri ac i ddilyn cafwyd adroddiad y trysorydd gan Rose. Yna cafwyd adroddiad y llywydd gan Ceri a ddiolchodd i pawb am eu cyd-weithrediad am y flwyddyn diwethaf.Traddodwyd y Llythyr Misol.Cafwyd sgwrs ac ambell i stori hwyliog iawn gan Jean Lane. Diolchwyd iddi gan Ceri.Gwesteion y te oedd Rose ac Eirlys. Enillydd y raffl, rhoddedig gan Rose, oedd Caren.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.