THE latest community news from Abersoch
Merched y Wawr
AR NOSON boeth, braf o Fehefin, aeth rhai o’r gangen i bentref tlws Y Parc, sy’n swatio ym mryniau Meirionnydd.
Yno yn y Ganolfan fu unwaith yr ysgol. Cafwyd croeso cynnes gan Tegwen Morris, y cyfarwyddwr Cenedlaethol, a phaned a chacen gan aelodau Llandudno, cyn gwylio’r sgrin a gweld lluniau a chael hanes y mudiad a sefydlwyd yno hanner canrif yn ôl.
Roedd yr arddangofa’n hyfryd, yn enwedig y panelau o waith llaw cywrain a wnaed gan y wahanol ganghennau i ddarlunio eu bro a’u gweithgaredd.
Cafwyd pryd o fwyd blasus wedyn yn Llanuwchllyn a diolchodd Iorwen (llywydd newydd y gangen) i Gwenda am drefnu’r daith, cyn rhoi rhai materion ger bron yn dwt a chryno.
Roedd y daith adref yn fythgofiadwy. Diolch i Daniel am fynd â’r criw ar hyd lôn gul dros y gweundir, lle’r oedd plu’r gweunydd ar bob llaw, ysgyfarnog yn ffoi drwy adwy, aderyn ysglyfaethus yn hofran uwchben a machlud godidog yn tanio’r gorllewin.
Diolch yn fawr hefyd i’r ferch ifanc hynaws ac amyneddgar am agor a chau’r saith giat ar y ffordd.
Bore Paned
BORE paned for the over 50s at the village hall, on Friday, 7 July, from 10am till midday.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.