THE latest community news from Abersoch

Merched y Wawr

AGORWYD tymor newydd y gangen gyda noson ddifyr iawn yn Aberdaron. Ymwelwyd â Becws Islyn, yr adeilad unigryw a nodweddiadol hwnnw a’i do gwellt a’i gelf luniau diddorol yn portreadu chwedlau Ynys Enlli. Croesawyd ni yn gynnes gan Geraint a’i wraig Gillian a chyflwynodd y cwpl dirodres a gweithgar yma i ni sut i ddylino a phobi bara. Cawsom lwmp o does i’w drin ac yna ei adael i ‘brofi’ tra bu Geraint yn rhoi dipyn o hanes cychwyn eu taith fentrus i gymryd drosodd hen fecws Islyn, a heb brofiad o fath yn y byd, ei droi yn fusnes gwerth chweil. Yna, tra bu’r bara yn crasu, cawsom baned a theisen o’n dewis, blasus dros ben! Diolchwyd iddynt gan Marnel. Llywyddwyd y noson yn abl gan Iorwen Thomas. Croesawodd bawb yn gynnes iawn. Croesawodd Joan Griffith, Creigir Goch, sy’n ail-ymaelodi ac anfonwyd ein cyfarchion i wella’n fuan at Arthur Roberts, gwr Margaret, ac at Gwilym Evans, gwr Marnel. Croesawyd hefyd Beti Huws a Margaret Williams, Craig Wen ar ôl eu profedigaeth o golli Huw Williams, gwr Margaret. Cydymdeimlwyd â Iola ar golli ei brawd Elfyn. Dymunwyd gwellhad buan i Dori sydd yn yr ysbyty a dymuniadau gorau i Janno a Richard, Ty Newydd ar ddathlu penblwydd priodas Ddiemwnt ym mis Hydref. Buom yn meddwl am Anna ar ei hantur yn Rwsia. Edrychwn ymlaen at gael stori dda pan ddaw adre’n ôl. Cyfeiriwyd at y flwyddyn bwysig sydd o’n blaen, yn dathlu hanner can mlynedd ers cychwyn Cangen Abersoch ar 8 Tachwedd 1967, sef dathlu’r aur. Cyn hynny, roedd yna cyng-erdd Owain Glyndwr, gyda holl ganghennau’r rhanbarth yn cymryd rhan yn Neuadd Goffa Criccieth ar 16 Medi. Bydd cyfarfod nesa’r gangen ar 4 Hydref lle bydd y Cyng Dewi Wyn Roberts yn adrodd ei hanes yn yr heddlu. Bydd croeso mawr i aelodau newydd i ymuno â ni ac i rannu’r ysbryd a chyfeillgarwch hwyliog sydd gennym. Diolchwyd i Yvonne Lloyd-Jones am baratoi’r rhaglen ac i Mair Hughes, Llain Las, am drefnu’r noson.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]