THE latest community news from Blaenannerch

Cymdeithas Ceredigion

CYNHALIWYD gwasanaeth Plygain y Gymdeithas eleni yng Nghapel Blaenannerch trwy garedigrwydd y gweinidog, y Parch Llinos Gordon ac aelodau’r capel.

Cafodd y gwasanaeth gefnogaeth arbennig gan bobl, leol naill ai fel cantorion caboledig neu wrth ffurfio cynulleidfa fawr a brwdfrydig.

Yn ôl hen draddodiad y Plygain, mae’r addoliad arferol byr yn cael ei ddilyn gan gyfres o bartïon sy’n canu’n ddigyflwyniad ac yn ddigyfeiliant, y naill yn syth ar ôl y llall.

Daeth chwe grwp ymlaen i roi pleser o’r mwyaf i’r gwrandawyr.

Roedd y noson dan ofal Carol Byrne Jones, is-lywydd y gymdeithas.

Roedd y gwaith cynllunio manwl gan Mari Wyn, ysgrifennydd y gymdeithas, yn allweddol wrth sicrhau bod yr achlysur yn llwyddiant mawr.

Diolchiadau gwresog hefyd i wragedd Capel Blaenannerch am y lluniaeth ar ôl y Plygain.

Bob blwyddyn mae elusen yn elwa yn sgil y noson ac eleni rhoddwyd y casgliad hael o £318 i Ganolfan Therapi Ocsigen, Aberteifi.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes nos Sadwrn, 3 Chwefror am 7.30yh pan fydd Hefin Wyn yn siarad am destun ei lyfr diweddaraf, sef Niclas y Glais, y cymeriad enfawr, lliwgar o Sir Benfro.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]