THE latest community news from Blaenau Ffestiniog

Bwrlwm Bro

AR ddydd Sadwrn, 16 Medi, cynhaliwyd Bwrlwm Bro yn y parc.

Er iddi fwrw’n ddi-stop am wythnos cyn y digwyddiad, cadwodd y glaw i ffwrdd a daeth pobl y fro ynghyd yn steil ffyddlon ‘Stiniog!

Roedd y plant wrth ei boddau ar y wal ddringo ac ambell i bwll dwr yn boblogaidd iawn gyda un neu ddau o’r rhai bach!

Daeth Cangen Meirionnydd o’r Clwb Tractorau a Pheiriannau Hynafol Cenedlaethol i arddangos eu peiriant dyrnu - roedd yn ddiddorol dros ben ac roedd yn wych gweld yr holl blant yn cymryd diddordeb.

Daeth llawer o asiantaethau hefyd - GISDA, Antur Stiniog, Llyfrgelloedd Gwynedd, Coleg Llandrillo Menai, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Barnados, Ambiwlans Awyr Cymru, Cylch Meithrin Blaenau a CEFN.

Roedd cynnyrch lleol ar gael gan rhai o siopau’r ardal - criw Marchnad Eryri, ‘This and That’ a ‘Sweet Dreams’ yn ogystal â phobl leol gyda stondinau a Sharon Evans yn brysur iawn yn peintio gwynebau drwy’r dydd.

Roedd arddangosfa hollti a naddu llechi gan Phil Lee, gweithdy crochenwaith gan gwmni Glosters, Porthmadog a gweithdy karate gan Eric Williams - rhywbeth at ddant pawb!

Cawsom adloniant gwerth chweil gyda cherddoriaeth gan Gwilym Bowen, Tom ap Dan a Band Arall a brofodd i fod yn boblogaidd iawn ac wedi gosod awyrgylch perffaith i’r prynhawn.

Bu Carys yn brysur iawn yn gwneud bwyd a paneidia’ yng Nghaffi’r Parc a choginiwyd llwyth o bizzas ym mhopty biomas y Dref Werdd - hyn ar ffurf ‘Talwch fel y mynnwch’ - fe gasglwyd gyfanswm o £64.01 i’r Banc Bwyd!

Cyflwynodd Daniel dystysgrifau i griw Cynefin a Chymuned i Blant y Dref Werdd - llongyfarchiadau iddynt am gwblhau’r cwrs ac ennill gwobr John Muir eto eleni.

Ar ddiwedd y prynhawn, cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Lluchio’r Llechen’.

Profodd i fod yn boblogaidd iawn unwaith eto.

Nigel Morris enillodd y safle cyntaf, wedi lluchio’r llechen 9.2 medr! David oedd yn ail, a Craig yn drydydd.

Mae’n wir i ddweud fod Bwrlwm Bro 2017 wedi bod yn llwyddiant mawr eto eleni.

Gyda diolch arbennig i bawb ddaeth i gefnogi, ac i’r canlynol am eu rhoddion tuag at gynnal y diwrnod; Ras yr Iaith, Grwp Cynefin, D & C Jones, Metcalfe Catering, Cyngor Tref Ffestiniog, Blaenau Bendigedig, Llechwedd, Welsh Slate a Siop Chips Ian - diolch o galon am eich cyfraniadau hael.

Edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf!

Clwb Cerdded

AR ôl eu penwythnos yn ardal y Llynnoedd, bydd aelodau Clwb Cerdded Stiniog yn nes adref ddydd Sul pan fyddant yn mynd i Wybrnant a Penmachno.

Gofynnir iddynt fod ger Ty Gorsaf am 9yb; mae esgidiau cryf, dillad addas a phecyn o fwyd yn hanfodol i’r daith.

Gallery

AN art and craft exhibition by the members of Stephen Owen classes is on show at the Maenofferen Gallery and admission is free during the library’s opening hours.

Planning

THE town council has no objections to the following planning applications: 1, Erection of a distribution loading facility at Gwaith Setts, Manod; 2, To demolish existing single storey extensions at Ffynnon Farm, Manod and erect two storey extensions on the side and rear of the dwelling; 3, Listed Building Consent for alterations to a curtilage building to convert into an ancillary accommodation to dwelling including replacement and addition of rooflights, and rainwater goods, add concrete floor with under floor heating and slate finish and a shower room at Cwm Farm, Cwm Cynfal; 4, Change of use of the former pensioners institute at Market Square to a dwelling.

Health Event

THE next Health and Wellbeing Event at the library will be on Monday between 11am and 12.30pm and will be an Aromatherapy and Relaxing session with Alison Smedley.

Then on Wednesday from 10am to 1pm, also at the library, representatives of the Welsh Government’s Nest and Resource Efficient Wales schemes will be present to provide advice on saving energy, money management, energy tariffs, and benefit entitlement.

Services

HOLY Cross: Mass at 6pm on Saturday.

St Mary Magdalene: Mass at 11am.

St Michael’s Church: Morning service at 9.30am.

St David’s: Morning service at 11am.

Manod Orthodox: Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by Divine Liturgy of Saint John Chrysostom.

Bowydd: United churches service with Rev Megan Williams.

Hyfrydfa: Mr and Mrs Geraint Roberts, Trawsfynydd at 5.30pm.

St David’s Church

THEY are pleased to be hosting a Macmillan ‘biggest coffee morning in the world’ on Friday, 29 September.

This will be in the Church from 10am till noon. Plenty of cakes and home produce. Proceeds to Macmillan Cancer Support.

Cymdeithas y Gorlan

BYDD tymor newydd Gymdeithas y Gorlan yn dechrau yn fuan.

Mae’r swyddogion am gario ymlaen, sef Ceinwen Lloyd Humphreys yn gadeirydd; Janet Wyn Roberts yn drysorydd ac Edwina Fletcher yn ysgrifenyddes.

Yn ymuno fel ysgrifenyddion gohebol fydd Annwen Jones a Dorothy Williams.

Ar 2 Hydref, am 7yh yn Eglwys y Bowydd, ddaw Hogia Harlech i’n diddanu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]