THE latest community news from Blaenau Ffestiniog
Church Services
Bethel, Ffestiniog – Rev Anita Parry Ephraim;
Bethesda – Rev Philip De La Haye;
Bowydd – Rev Olwen Williams;
Carmel – Mr Eifion Jones;
St David’s – Morning service at 11am;
St Michael’s - Morning service at 9.30;
Manod Orthodox – Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by Divine Liturgy of Saint John Chrysostom;
Holy Cross – Mass at 6pm on Saturday and 11am on Sunday with Fr Shaji Punnati.
Moelwyn Fell Race
THIS Saturday will be the 36th year of the popular 10-mile Moelwyn Fell Race which was original thought of by the late John R Jones of Wynne Road and since then thousands of runners have enjoyed the challenge this race provides.
Since it was started the Blaenau Amateurs FC have been the organising group but are now joined by the Hebog Runners.
As for this race the seniors will be set on their way from the Bro Ffestiniog Rugby ground at Dolawel at 2pm and after which there will be different stages for the juniors.
Bowls
Blaenau were soundly beaten 10-2 at Rhos Park A in a league match on Saturdat their winners being Dafydd and Barry J Hughes.
The next match will be at Penmaenmawr.
Blaenau Bendigedig
The Blaenau Bendigedig group held its AGM last week where Kevin Baldwin was elected chairman, with Clare Britton the treasurer, Sioned Graham-Cameron the secretary and Sue Roberts the marketing secretary.
They are to stage an Alzheimer’s Day on Sunday, 5 August to raise funds for the local Alzheimer’s clinic which will be a 1960s day with an Elvis Presley impersonator taking part.
As usual they are holding the fireworks display this time on Sunday, 4 November at Tanygrisiau.
Wedding choir
The Brythoniaid Choir conducted by John Eifion entertained at a wedding reception held at Nant Gwytheryn on Saturday.
Clwb Merched
AETH aelodau Clwb Merched Nos Fawrth allan i wledda ar 10 Ebrill i’r Goat yng Nglandwyfach.
Ar 24 Ebrill, y gwr gwadd oedd Steffan ab Owain, a phwnc ei sgwrs oedd ‘Pen-blwydd Mwnci”.
Dywediad diarth i’r rhan fwyaf o’r aelodau.
Hen idiomau a dywediadau oedd pwnc ei sgwrs gan orffen efo ‘Tylwyth Teg – credu neu beidio’.
Gwesteion y te oedd Glenys a Gwenys ac enillydd y raffl oedd Eirlys, rhoddwyd gan Christine.
Croesawyd aelod newydd sef Bet Roberts.
Bydd y cyfarfodd nesaf ar ddydd Mawrth, 8 Mai.
Presentations
After their recent match against Llangefni the Bro Ffestiniog Rugby Club held its annual dinner.
It was attended by guest speaker, the ex Wales and British and Irish Lion player Colin Charvis, who presented the club’s annual trophies as follows: most promising player – Ewart Williams; coaches’ player – Dewi Atherton; players’ player – Dewi James; clubman/person of the year – Keith (Brenin) Roberts.
Y Gymdeithas Hanes
Y siaradwr yng nghyfarfod diwethaf Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog oedd Aled Ellis, Minffordd. Testun ei sgwrs oedd ‘Harry, Parry a Kate’.
Y Kate dan sylw oedd Kate Winnie Jones-Roberts a fu yn gadeirydd Mainc yr Ynadon yn y Blaenau am flynyddoedd.
Clywsom hanes ei magwraeth a’i gyrfa addysgol ddisglair ac am ei gwaith pwysig yn Llundain.
Dangosodd Aled lun ohoni ar dudalen flaen y Daily Mail (1956) gyda’r brif stori yn cyfeirio at ei gwaith ar y Comisiwn Brenhinol a oedd yn edrych ar ddeddfau ysgariad; ai hi yw’r unig ddynes o ’Stiniog i ymddangos ar dudalen flaen y papur hwnnw tybed?
Priododd y bargyfreithiwr John Jones-Roberts yn 1919 ac ymgartrefu ym Mhenrhiw, Llan Ffestiniog.
Yn ychwanegol i’w yrfa ddisglair ym myd y gyfraith, buodd John Jones Roberts yn ymgeisydd aflwyddiannus ar gyfer y Blaid Lafur dros Feirionnydd bedair gwaith a’i wraig oedd ei asiant.
Bu hi ar y cyngor sir am flynyddoedd ac ar y fainc am bron i ddeugain mlynedd.
Yr oedd y ddau ohonynt yn amlwg iawn ym mywyd ’Stiniog am flynyddoedd ac yn cymryd diddordeb garw yng ngweithgareddau y tîm pêl-droed ymhlith myrdd o bethau eraill.
Yr Harry dan sylw oedd y twrnai Harry Evans-Jones; fo hefyd oedd clerc yr ynadon yn ’Stiniog.
Clywsom dipyn o’i hanes yntau – y ddamwain fawr a gafodd pryd y collodd ei goes, ei smocio di-derfyn a’i hiwmor cynnil, ond hefyd clywsom am rai o’r hanesion difyr y bu yn ymwneud â hwy yn ei waith fel crwner y sir, megis achos llofruddiaeth (honedig) Jac Fawr o Dalsarnau.
Y trydydd person a enwir yn nheitl y sgwrs oedd Inspector W H Parry.
Byddai ef yn aml yn gorfod canoli rhwng y ddau gymeriad cryf a reolai y Llys yn y Blaenau.
Siaradwr y mis nesaf fydd Bill Jones a fydd ef yn adrodd am y cloddio y bu ef ac aelodau eraill o’r Gymdeithas Archaeoleg yn ei wneud dros y misoedd diwethaf.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.