THE latest community news from Borth-Y-Gest
Merched y Gest
MAE eleni yn flwyddyn bwysig iawn yn hanes Clwb Merched y Gest oherwydd byddant yn dathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r clwb.
Bydd yna dipyn o ddathlu ymlaen, felly aelodau hen a newydd dewch i fwynhau gyda ni.
Bydd y noson gyntaf yn cael ei chynnal ar nos Iau, 14 Medi am 7.30yh pryd cawn hel atgofion dros y 60 mlynedd diwethaf, gan edrych ymlaen at y 60 nesaf.
Os oes gennych unrhyw luniau neu gopïau o’r llyfrau lloffion oedd yn cael eu cadw, dewch â nhw gyda chi.
Edrychwn ymlaen i weld pawb i dechrau’r dathlu!
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.