THE latest community news from Ceredigion
Cymdeithas Ceredigion
FEL ARFER, neilltuir cyfarfod cyntaf tymor newydd Cymdeithas Ceredigion at drafod y prif gyfansoddiadau buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol flaenorol ac at longyfarch yr enillwyr.
Ni allai’r enillwyr fod yn bresennol eleni ond aeth y pwyso a mesur ymlaen yn hwyliog ac yn ddi-flewyn-ar-dafod.
Rhoddodd y Prifardd, Idris Reynolds, gyflwyniad i’r awdl fuddugol gan sylwi nad oedd enillydd y gadair, Osian Rhys, wedi cael ei ystyried o’r blaen yn un o geffylau blaen y canu caeth.
Testun ei awdl oedd ymateb dyn ifanc a oedd yn dioddef o iselder i ddigwyddiadau ei fywyd dinesig dros gyfnod o saith mis ac ym marn y Prifardd roedd hi’n awdl arbennig o dda.
Cyflwynodd Emyr Hywel, llywydd newydd y gymdeithas, y casgliad o straeon byrion oedd wedi ennill y Fedal Ryddiaith, Rhannu Ambarél gan Sonia Edwards.
Canmolodd Emyr grefft a sensitifrwydd y nofelydd ac anogodd y gynulleidfa i brynu’r llyfrau heb oedi ac i ddarllen y straeon.
Wrth drafod Cystadleuaeth y Goron, sylwodd Emyr Llywelyn fod Llenyddiaeth Cymru wedi noddi’r bardd buddugol, Gwion Hallam, sy’n hanu o Rydaman, i lunio ei bryddest drwy ei gefnogi i ymweld â chartref hen bobl a oedd yn dioddef o glefyd Alzheimer ac i ymateb fel bardd i’w brofiad.
Roedd cefnogaeth o’r fath yn anarferol, a dweud y lleiaf.
Beth bynnag am hynny, roedd ei gerdd yn un drawiadol wrth iddi adlewyrchu geiriau’r preswylwyr a rhoddodd y bardd gydnabyddiaeth i’w rôl allweddol wrth ddewis ei ffugenw, sef elwyn/annie/janet/jiws.
Nododd is-lywydd y gymdeithas, Carol Byrne Jones, mai gwaith dychan a oedd wedi ennill cystadleuaeth y stori fer, a hynny’n anelu at bron pob sefydliad parchus Cymraeg.
Byddai’n well stori, ym marn Carol, petai’r awdur wedi cyfyngu ryw ychydig ar ei dargedau.
Trafododd Dai Rees Davies gystadleuthau’r englyn.
Ni chytunodd Dai ei hun â dewis y beirniaid yn y naill gystadleuaeth na’r llall er bod y ddau’n aelodau o’r gymdeithas ac yn bresennol yn y cyfarfod, sef Dafydd Islwyn a’r Prifardd John Gwilym Jones.
Parhaodd y drafodaeth hon wedyn dros baned a chacen.
Fe fydd y cyfarfod nesaf yng Nghaffi Emlyn ar nos Sadwrn, 7 Hydref, gan ddechrau am 7.30yh pan ddaw Kees Huysmans i ganu a siarad gyda ni.




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.