THE latest community news from Clynnog
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
NOS Fercher bu Gwasg y Lolfa yma yn cyhoeddi trysor o lyfr Dr Anne Elizabeth Williams, Hengwm, Meddyginiaethau Gwerin Cymru.
Ffrwyth ymchwil ei gwaith yn Amgueddfa Werin Cymru yw’r gyfrol werthfawr hon ac nid syndod oedd cyhoeddiad Lefi Gruffudd dros y wasg fod galw mawr amdani.
Cafwyd noson i’w chofio yng nghwmni’r awdur, Twm Elias, a Lefi Gruffudd a braf oedd gweld yr Ysgoldy yn llawn i’r ymylon.
Llywyddwyd gan Dawi Griffiths.
Bydd y cyfarfod nesaf nos Wener, 15 Medi, ar achlysur Cofio Glyndwr, pryd y bydd y darlithydd hynod boblogaidd, Dafydd Glyn Jones, yn ei ffordd wreiddiol ei hun, yn ‘Ystyried Lloyd George’.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.