THE latest community news from Cribyn
Capel yr Undodiaid
Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y capel ar fore Sul 9 Rhagfyr.
Ar gychwyn y gwasanaeth estynnwyd croeso i bawb gan Cen Llwyd.
Fe hefyd gyhoeddodd y carolau ynghyd â’r fendith i orffen y gwasanaeth.
Darllenwyd darnau gwahanol o’r Beibl gan Morwen Thomas a Cen Llwyd.
Cafwyd darlleniadau gwahanol o gerddi ac ysgrifau gan Mattie Evans, Dilwen Jenkins, Ann Evans, Olwen Davies, Delyth Evans, Haf Meredith, Morwen Thomas, Ianto Jones a Cynthia Griffiths
Cafwyd eitemau unigol ar ffurf cân a chyflwyniad llafar gan Fflur ar Ifan Meredith.
Nhw ei dau a wnaeth y casgliad hefyd.
Cyfeiliwyd ar yr organ gan Cynthia Griffiths.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.