THE latest community news from Dolgellau
Santes Dwynwen
Cafwyd noson i ddathlu Santes Dwynwen yn Nhy Siamas nos Sadwrn, dan arweiniad profiadol a hwyliog Mair Tomos Ifans (gweler y llun ar y dde).
Canwyd sawl alaw werin draddodiadol yn ymwneud â serch, megis Ar Lan y Môr ac Ym Mhontypridd, a chafwyd dehongliad o gefndir rhai o’r caneuon.
Cafwyd ambell i gân fwy diweddar yn ogystal, fel Lleucu Llwyd ac Elen.
Noson gartrefol, a chyfle i gyd ganu rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus Cymru!
Cymdeithas Hanes Teuluoedd
Bydd Cangen Meirion o Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd yn cyfarfod yn y Llyfrgell Rydd, nos Iau, 8 Chwefror am 7yh.
Y siaradwr fydd Gareth Neigwl Williams a’i bwnc fydd ‘Llanddwywe a Llety’r Wyn’.
Croeso i aelodau hen a newydd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â 01766 540311.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.