THE latest community news from Lampeter

St Peter’s Church

SUNDAY, 16 June: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Prayer (bilingual).

Capel Brondeifi

AR Sul, 28 Ebrill, ar BBC Radio Cymru bu’r Parch Alun Wyn Dafis yn arwain Oedfa’r Bore, gyda chymorth nifer o Frondeifi. Cafwyd gwasanaeth hwylus tu hwnt.

Yn ystod y prynhawn a’r nos ar yr 28ain cynhaliwyd Cymanfa Ganu’r Undodiaid ym Mrondeifi. Yn arwain, gydag arddeliad, roedd Enfys Hatcher-Davies. Diwrnod i’w gofio.

Ar Sul, 12 Mai, cafwyd gwasanaeth dan ofal y gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis. Yn ystod yr oedfa cyflwynwyd cloc i’r capel, gan Aneurin Jones, Hathren, a’r teulu, er cof am ei ddiweddar wraig, Sallie Jones. Gwnaeth Sallie gyfraniad arbennig i’r capel a’r ysgol Sul ym Mrondeifi, a hynny dros gyfnod o ddegawdau. Bydd y cloc yn cael lle balch a phriodol yn y capel.

Ar y dydd Mercher canlynol, y 15fed, cynhaliwyd Brecwast Mawr Brondeifi. Daeth tyrfa dda ynghyd i gael brecwast yn y festri, a oedd yn cael ei weini rhwng 7.30yb a 11.30yb. Gadawodd pawb â’u boliau yn llawn â gwên ar eu hwynebau. Llwyddwyd i gasglu £1,317 i elusen Cymorth Cristnogol. Diolch o galon i bawb fu ynghlwm â’r digwyddiad.

Ar Sul, 19 Mai, tro ysgrifennydd yr enwad, Melda Grantham, oedd hi i gamu i’r pulpud. Yna ar y 26ain, y Parch Alun Wyn Dafis oedd yn gwasanaethu am y Sul olaf cyn iddo fynd i ffwrdd am dri mis. Mae Alun Wyn a’i briod, Karen, yn treulio cyfnod yn teithio drwy rannau o Ewrop - cyfuniad o wyliau a chyfle i Karen i adfer ei hiechyd. Dymuniadau gorau iddynt, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn dychwelyd ar ddiwedd yr haf.

Edible garden

ON Friday, 7 June, Debbie Camp of Lampeter Custard Queens WI cut the ribbon, with a pair of secateurs, to open the second Bwyd Bendigedig/ Incredible Edible Garden in Lampeter.

Despite the torrential rain, there was an excellent turnout to toast the project with sparkling wine and Custard Cream biscuits.

They were joined by Julia Lim, of Lampeter Incredible Edible.

The garden is outside The Wash Tub on Station Terrace and has been planted by the Custard Queens with the help and advice of Lampeter Incredible Edible team with vegetables for everyone to share.

Custard Queens have bought a water butt and have been given a watering can so everyone can nurture the garden.

The onions, spinach, chard, radishes, and beetroot are coming on well.

The lettuce and mint are ready to pick and the strawberries and tomatoes are flowering.

There are slate signs saying what is ready to pick and eat.

Debbie thanked The Wash Tub for providing the site, Bwyd Bendigedig/ Incredible Edible for providing the inspiration, knowledge and support, D L Williams Home Centre for providing paint to re-do the railings and Robert’s Garden Centre for the compost and watering can, and all the Custard Queen members and their families for their enthusiasm and man/ woman power to get the project up and running including making the planters and nurturing the seeds.

Bedyddwyr

CYNHALIWYD Cymanfa Ganu Bedyddwyr cylch Caio a Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar yng Nghapel Bethel, Silian â’r haul yn tywynnu’n braf.

Llywyddwyd yn fedrus gan Elfyn Davies, Bethel, Cwm Pedol ac estynnodd groeso cynnes i Emlyn Davies yr arweinydd, i Ann ac Alwena, yr organyddion, ac i bawb oedd wedi dod ynghyd i ganu mawl i Dduw.

Datganodd ei bleser o weld cymaint o blant yn bresennol ar y galeri a llongyfarchodd eglwys Noddfa am barhau i gynnal Ysgol Sul yn yr oes sydd ohoni.

Cymrwyd at y rhannau arweiniol gan Iwan ac Erin, Bethel, Silian.

Er bod mwyafrif o’r plant yn ifanc iawn, roedd pob un wrth ei fodd yn canu ac yn cyhoeddi’r emynau gydag Elan o Noddfa â’i llais peraidd yn cynorthwyo’r plant trwy ganu pennill o ‘Au Clair de la Lune’.

Mwynhawyd gwledd yn eu cwmni dan arweiniad Emlyn â phawb yn ymateb yn dda i’w gyfarwyddiadau.

Roedd gweld brwdfrydedd y plant wrth ganu ‘penblwydd hapus’ yn llonni’r galon ac yn gwneud i bawb wenu.

Hefyd pleser oedd gwrando ar ddatganiadau swynol gan ddau unawdydd ifanc sef Elliw o Fethel, Silian a Deian o Fethel, Cwm Pedol gyda Delyth ac Elfyn yn cyfeilio.

Gan fod eleni yn flwyddyn i goffau canmlwyddiant marw Dr Timothy Richard, y cenhadwr, a anwyd yn Ffaldybrenin bu’r llywydd yn rhoi ychydig o’i hanes i’r plant ac yna yn holi cwestiynau a chafwyd ymateb da iawn.

Er nad oedd rhif y cantorion yn adran yr oedolion yn niferus iawn roedd yr arweinydd yn uchel iawn ei ganmoliaeth o’r canu.

Mae Emlyn yn arwain mewn ffordd gartrefol a di-ffws ac yn meddu ar y ddawn o dynnu’r gorau allan o’r cantorion.

Diolchodd y llywydd i Emlyn am ei wasanaeth clodwiw, i Ann ac Alwena am eu cyfraniad pwysig ar yr organ, i bawb a gymrodd rhan ac i aelodau Bethel am y croeso.

Talodd deyrnged uchel i’r plant am eu cyfraniad cyfoethog iawn a datganodd ei werthfawrogiad i Janet nid yn unig am baratoi’r plant ond hefyd am ei gwaith trylwyr fel ysgrifennydd y Gymanfa.

Roedd pawb yn gytun ein bod wedi cael prynhawn bendithiol a llwyddiannus lawn wrth ganu mawl i Dduw. Traddodwyd y fendith gan y Parch Densil Morgan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]