THE latest community news from Lampeter
Music Concert
ELENA Urioste (violin) and Tom Poster (piano) will perform at Arts Hall, University of Wales Trinity Saint David, Lampeter campus at 7.30pm on Saturday, 16 September.
This stunning violin and piano duo will be performing works by Grieg, Dvorak, Gershwin and others.
Single tickets: £11; concessions £9.
Membership for the season, which gives admission to six concerts: £50; concessions £40.
Students free with a union card.
Two children free with a paying adult. Tickets and membership at the door, by phone (01558 650569), or online.
St Peter’s Church
SUNDAY, 10 September: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion Bilingual; 2.30pm, Deanery Walk begins from Cwmann Church.
Noddfa
DAETH cynulliad teilwng iawn ynghyd i Noddfa i ddathlu 25 mlynedd o weinidogaeth y Parch Glan Roberts yn Eglwysi Bethel Silian, Caersalem a Noddfa Llambed a Pisga Bancffosfelen.
Croesawyd pawb yn gynnes gan ein gweinidog, y Parch Jill Tomos a braf oedd cael cwmni Glan a’i bríod Meriel, eu hwyres Sophie a pherthnasau eraill, aelodau Eglwysi Cylch Llambed, a hefyd cynrychiolaeth niferus o Eglwysi Pisgah a Bethel y Tymbl ynghyd â llawer iawn o ffrindiau’r ddau o’r ardal. Roedd y dyrfa luosog iawn yn dyst o’r parch mawr tuag atynt.
Cymerwyd at y rhannau arweiniol a chyhoeddwyd yr emynau gan aelodau cylch Llambed.
Wrth gyflwyno cyfarchion ar ran yr eglwysi soniodd Janet am y cyfarfodydd ordeinio a sefydlu yn Noddfa ar 27 Mehefin 1992 a bod Glan wedi gweinidogaethu yn y cylch hyd 2001.
Yn ystod y cyfnod hwnnw dywedodd ei fod yn uchel iawn ei barch yn y gymuned ac yn ymwelydd cyson a chleifion yn yr ysbyty ac nid oedd gwahaniaeth ganddo eich bod yn perthyn i’r Annibynwyr, yr Undodiaid neu unrhyw enwad arall byddai’n siwr o wneud amser i alw heibio i’ch gweld. Soniodd bod staff a phreswylwyr cartref Hafandeg yn meddwl y byd ohono ef a Meriel ac yn mwynhau eu gweld yn galw heibio am sgwrs.
Roedd Glan yn cynnal oedfaon yno yn rheolaidd a’r henoed oedd yn methu mynychu lle o addoliad bellach yn cael cyfle i glywed yr efengyl.
Cafwyd cyfarchion hefyd gan Mill Howells ar ran Pisgah a diolchodd i Glan a Meriel am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod o 15 mlynedd.
Cafwyd pregeth amserol a gafaelgar gan y Parch Jill Tomos a phleser oedd gwrando ar ddatganiad swynol gan Elan, Lisa a Sioned, tair o ferched ifanc Noddfa. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Alwena a chasglwyd tuag at waith Ysgol Sul Noddfa.
Talwyd diolch gan Alun i bawb oedd wedi cymryd rhan, gan sicrhau oedfa arbennig iawn.
Yna bu pawb yn cyfranogi o’r te ardderchog oedd wedi ei baratoi gan chwiorydd Bethel, Caersalem a Noddfa yn festri Brondeifi ac yn mwynhau’r gymdeithas o amgylch y byrddau. Wedi i Glan a Meriel dorri’r gacen ddathlu hyfryd o waith Gareth, cyflwynwyd cyfarchion gan Ann Griffiths, aelod ym Methel y Tymbl.
Soniodd bod Glan wedi mynychu Ysgol Sul Eglwys Dewi Sant yn gyntaf, ond ei fod wedi dilyn ffrindiau wedyn i Ysgol Sul Bethel ac i’r oedfaon yno a chael ei fedyddio gan y diweddar Barch J S Williams.
Ychwanegodd ei fod yn barod iawn ei gymwynas i Eglwys Bethel o hyd.
Wedyn bu’r Parch Goronwy Evans, gweinidog yr Undodiaid yn sôn am ei atgofion melys yntau o gyfnod Glan yn Llambed a gwneud hynny yn llawn hiwmor.
Cyfeiriodd at ei gonsyrn am y cleifion ac at y cydweithrediad arbennig a’r cyfeillgarwch oedd yn bodoli rhwng y ddau ohonynt ar hyd y blynyddoedd.
Cyflwynwyd rodd i Glan a blodau i Meriel gan Anne Davies a Margaret Jones, sef trysorydd ac ysgrifennydd Noddfa adeg gweinidogaeth Glan. Ymatebodd yntau drwy hel atgofion am y blynyddoedd hapus a dreuliodd yn Llambed, gan ddod â gwên i wynebau pawb. Hefyd diolchodd yn ddiffuant am yr anrhegion a’r croeso twymgalon ac i bawb oedd ynghlwm â threfniadau’r dathlu gan sicrhau diwrnod i’w gofio iddo ef a Meriel.
Pob bendith Glan a Meriel
a iechyd a hir oes,
Disgleiried heulwen beunydd
ar eich aelwyd yn Nhycroes.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.