THE latest community news from Lampeter
St Peter’s Church
FRIDAY, 12 January: Monthly lunch in aid of Christian Aid,noon to 1.30pm in the church hall.
Sunday, 14 January: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion (bilingual).
St Mary’s Church Maestir
SUNDAY, 14 January: 2.30pm, Holy Communion in English.
Cylch Cinio
CYNHALIWYD cyfarfod diweddaraf y Cylch Cinio ar y nos Iau, 14 Rhagfyr, yn lle’r noswaith arferol.
Er newid y dyddiad am y tro, yr un oedd y brwdfrydedd a croeshawyd pawb i’r achlysur gan y llywydd a mwynhawyd yn ôl yr arfer pryd ardderchog o fwyd.
Ein gwr gwadd ar y noswaith oedd Steffan Hughes, un gyda chysylltiadau clos â’r ardal.
Buan y dangosodd agosatrwydd deniadol iawn a thrwy hynny ennyn diddordeb ar unwaith yn ei destun, sef gweithio gyda’r methedig yn y gemau Olympaidd a chanolfannau tebyg ledled y byd.
Damweiniol braidd fu dechrau ei gysylltiad â’r gwaith gwerthfawr ac unigryw hwn.
Ymateb wnaeth i hysbyseb heb feddwl fod ganddo fawr o obaith i gael cynorthwyo rhedwraig ddall o’r enw Tracy – merch er ei dallineb oedd yn awyddus i gystadlu yn y gemau Paraolympaidd a bod yn llwyddiannus.
Yr elfennau holl bwysig oedd hybu’r meddwl, yr ysbryd a’r corff. Sylweddolodd nad oedd yn bosibl gwneud hynny heb sefydlu cyfathrach glos a chreu cydymdeimlad agos.
Llwyddwyd i wneud ond dechrau’r daith yn unig oedd hynny. Yn ystod cystadlu yn Bejing, Llundain a Chanada ac ennill nifer o fedalau, gwynebodd yr holl amryfusedd a wynebau’r holl gystadleuwyr oedd eisoes wedi digymod ag anhawsterau fyddai’n ddigon i dorri calon ac ysbryd y llai pendant a phwrpasol.
Bywyd oedd a allai syrthio o entyrch llwyddiant i ddiflastod methiant dros nos bron.
Amlwg iawn oedd edmygedd Steffan o’r cystadleuwyr fedrai ddigymod â hynny dro ar ôl tro a thros hir amser,
Amlwg hefyd oedd ein edmygedd ni o un oedd wedi buddsoddi ei fywyd i gefnogi’r fath bobl a hynny yn dod â chymaint o bleser a mwynhad iddo. Anodd dros ben darganfod ansoddair addas i roi tegwch i’r math yma o waith. Mae ysbrydoledig yn dod yn weddol agos.
Testun y ddarlith oedd tywys Tracy. Mae’n siwr iddo ein tywys ni, bob un mewn edmygedd o’i waith.
Diolchwyd iddo yn gynnes iawn ar ran pawb gan Andrew Jones.
Capel Brondeifi
AR 5 Rhagfyr daeth y newyddion trist am farwolaeth Sallie Jones, Hathren.
Roedd Sallie wedi gwasanaethu Brondeifi am dros 50 mlynedd, wedi iddi briodi gydag Aneurin ac ymgartrefu yn Llanbed.
Yn wreiddiol o Bumsaint, bu Sallie’n athrawes Ysgol Sul mawr ei pharch, a’n dilyn hynny yn aelod ffyddlon a gweithgar iawn yn y capel.
Bu hefyd yn brysur gyda nifer o gymdeithasau a chlybiau lleol, ac roedd ei chyfraniad hi ac Aneurin yn gwbl allweddol i lwyddiant elusen Sefydliad Prydeinig y Galon yn y fro.
Roedd ei theulu hefyd yn bwysig iawn iddi ac roedd yn ymfalchïo yn llwyddiannau y plant, Trefina a Tegryn, a’r wyrion Gwion, Sion ac Ela-Gwennon.
Roedd y dorf niferus wnaeth lanw Brondeifi ar gyfer angladd Sallie yn arwydd o’r parch oedd iddi ymhlith y rheiny oedd wedi ymwneud gyda hi mewn amrywiol feysydd dros y blynyddoedd.
Cydymdeimlwn gydag Aneurin, Trefina a Tegryn a’u teuluoedd yn eu colled a’u galar.
Ar Noswyl Nadolig cafwyd gwasanaeth carolau hyfryd.
Yn codi’r canu roedd Eirian a Meinir. Yn chwarae’r delyn roedd Lili Branwen. Hannah fu’n canu’r garol, Un Seren. Aelodau’r band bach oedd Elen, Sion, Marged, Rhys, Ifan a Deina.
Y cantorion ifanc oedd Martha, Gruff, Sion, Rhys, Ifan, Lili, Elen, Marged a Deina.
Bu’r canlynol yn ymgymryd gyda’r gwaith o gyhoeddi carolau: Bryn, Dafydd a Daniel, Hannah a Megan, ac Elen, Marged ac Ifan. Bu Bryn hefyd yn helpu gyda’r sgrîn fawr. Yn cymryd rhan gyda’r band roedd Hywel, Goronwy, Helen a’r gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis. Traddodwyd y fendith gan y Parch Goronwy Evans.
Ar fore Nadolig cynhaliwyd y gwasanaeth sydd wedi datblygu yn draddodiad ers degawdau bellach.
Braf oedd gweld fod Sion Corn wedi galw eleni eto i wireddu breuddwydion aelodau iau yn y gynulleidfa.
Ar ddydd Sul ola’r flwyddyn cafwyd cyfle i ddathlu penblwydd y festri yn 21 oed.
Dangoswyd ffilm fer o’r broses adeiladu yn 1997, a rhannodd y Parch Alun Wyn Dafis luniau roedd Aneurin Jones, Hathren, wedi eu tynnu, yn dangos yr hen festri yn cael ei dymchwel a’r un newydd yn cael ei chodi.
Wedi i’r digwyddiad ddod i ben, diolchodd y Parch Goronwy Evans i’r Parch Alun Wyn Dafis am drefnu’r achlysur ac am ei wasanaeth arbennig fel gweinidog ym Mrondeifi ers iddo gymryd yr awenau, gan ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol hefyd.
Yn dilyn, cafwyd cyfle i gymdeithasu dros gwpaned o de a bisgedi a bu Alan Morgan, Haulfryn, yn ein diddanu gyda rhai dynwarediadau o gymeriadau comedi enwog o’r gorffennol.
Roedd yn brynhawn pleserus, gyda digon o gyfle i chwerthin a mwynhau.
Cymorth Cristnogol
BRAF oedd gweld tyrfa luosog wedi dod ynghyd i ddathlu Gwyl y Geni yn Eglwys San Pedr ar 16 Rhagfyr mewn noson hyfryd wedi’i threfnu gan bwyllgor Cymorth Cristnogol sef Carol, Cerdd a Chân.
Roedd y noson hon yn achlysur arbennig iawn gan fod 30 mlynedd ers cychwyn y digwyddiad blynyddol hwn gan y diweddar Hazel Davies, un a roddodd oes o wasanaeth i Gymorth Cristnogol.
Croesawyd pawb yn gynnes ac offrymwyd gweddi agoriadol gan y Canon Andy Herrick.
Hefyd datganodd ei lawenydd o weld yr eglwysi lleol yn dod at ei gilydd i gefnogi achos mor deilwng.
Pleser oedd cael cwmni cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion y Cyng Lynford Thomas a’i briod, ynghyd â’r Cyng Hag Harris a’i bartner Eiry, Maer a Maeres y dref gyda ni.
Mwynhawyd noson ardderchog yng nghwmni talentau lleol sef Côr Lleisiau’r Werin, Côr Llefaru Sarn Helen, Côr Ysgol Carreg Hirfaen, Prif Swyddogion Bro Pedr, Kees Huysmans, Aled Wyn Thomas, Gwenann Jones, Lowri Elen, Sara Elan o Aelwyd yr Urdd, Gwawr Jones ac Elin Williams.
Cafwyd perfformiadau clodwiw gan y cantorion a’r llefarwyr i gyd gan greu naws hyfryd y Nadolig wrth ein tywys tua Bethlehem.
Talodd Twynog Davies, cadeirydd y pwyllgor deyrnged uchel i’r Canon Andy Herrick a wardeiniad San Pedr am eu cydweithrediad parod, i’r artistiaid i gyd o’r lleiaf i’r hynaf am wledd arbennig, i’r stiwardiaid wrth y drysau, i bawb am eu cefnogaeth ac i Janet am drefnu’r noson gyda’i brwdfrydedd arferol.
Datganodd ei werthfawrogiad i Elonwy Pugh Huysmans am ei gwasanaeth amhrisiadwy wrth yr organ yn flynyddol ers y cychwyn.
Codwyd swm sylweddol iawn o £820 tuag at Gymorth Cristnogol a bydd y llywodraeth yn rhoi punt am bunt.
Wrth droi tuag adre roedd pawb yn uchel iawn eu canmoliaeth o arlwy’r noson.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.