THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

CAFODD y gangen gyfle i groesawu Iestyn Hughes.

Daeth Iestyn gyda detholiad o’i luniau i’w dangos i ni.

Yng nghlydwch y neuadd rhaid oedd dal ein hanadl a rhyfeddu at ryferthwy stormydd yn eu hanterth, a Iestyn yn mentro i ddannedd y storm i gipio llun delfrydol. Cyfle hefyd i weld difrod stormydd slawer dydd.

Am noson llawn diddordeb; diolchodd Iona ar ein rhan.

Cawsom gyfle i gael mwy o’i gwmni dros gwpaned Joyce a Margaret.

I boced Mair Griffiths a Marian Jones aeth gwobrau‘r raffl, ac eiddo Jean oedd yr ymbarel mwyaf diddorol tra roedd un Iona a Mary yn dilyn.

Byddwn yn crwydro eto y tro nesaf a sylwi ar enwau lleoedd yng nghwmni Angharad Fychan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]